English Cymraeg

Am Dro Gyda Maia

gan Moira Butterfield, darluniau gan Kim Geyer
Adapted by Nia Morais

Oedran diddordeb: 4 i 5

Cyhoeddwr Rily Publications, 2023

Am y llyfr hwn

Llyfr sydd yn dathlu pethau syml bywyd yw hwn ac un sydd yn gwneud i’r darllenwr sylwi ar holl  harddwch y byd o’n cwmpas. Wrth droi’r tudalennau rydyn ni’n dilyn taith Dad a Maia wrth iddyn nhw fynd am dro. Mae’r ddau yn ffeindio hwyl ac hapusrwydd ym mhob man wrth iddyn nhw chwarae gemau, edrych a gwrando yn ofalus ar y byd o’u cwmpas. Mae’r testun wedi brithio gyda chwestiynau, sydd yn adlewyrchu meddwl chwilfrydig plentyn a mae hyn, wedi cyplysu gyda’r lluniau trawiadol, yn anogaeth bwerus i blant ac oedolion fwynhau a dathlu y weithred syml o fynd am dro.

Dyma destun bydd yn tanio diddordeb ar draws y cwricwlwm ond yn enwedig ym meysydd:

Iechyd a Lles, Y Dyniaethau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn