5 Funny Animals
gan Adam and Charlotte Guillain, darluniau gan Tom Knight
Oedran diddordeb: 4 i 5
Cyhoeddwr Ladybird, 2023
Am y llyfr hwn
Mae gan y llyfr cyfareddol hwn bump o anifeiliaid ar bob tudalen ddwbl, ond mae rhai yn gwneud pethau gwahanol. Os oes yna bedair arth yn bwyta mêl ac un arth yn darllen, faint o eirth sydd yna i gyd? Mae'r cwestiynau cynnil hyn, sydd wedi'u hysgrifennu mewn cwpledi odledig, yn golygu bod y plentyn yn ymarfer cyfrif ac yn cael ei gyflwyno i gysyniadau adio, tynnu a bondiau rhif ar gyfer 5, er nad ydy'r cysyniadau hynny'n cael eu henwi.
Mae egni'r anifeiliaid yn fyrlymus – mae yna frogaod yn bownsio, geifr yn hwylio a chathod yn canu! Mae'r darluniau hyfryd yn rhoi rhyw deimlad cyfeillgar i'r testun bywiog, ac mae'r llyfr i gyd yn wych o ryngweithiol.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Rhewyn a’r Côrachod
gan Catrin Angharad Jones, darluniau gan Sian Angharad
4 i 7 years
-
Nos Da, Jac Do
gan Casia Wiliam, darluniau gan David Gregory
3 i 5 years
-
Cyw Bach
gan Derek Bainton
0 i 5 years
-
Beth yw'r Amser, Bwci Bo? / What Time Is It, Bwci Bo?
gan Joanna Davies, darluniau gan Steven Goldstone
2 i 7 years