Y Children’s Laureate Wales presennol yw’r bardd a’r perfformiwr Connor Allen, ac ef yw’r ail awdur i gamu i’r rôl. Cyhoeddwyd mai Connor oedd y Laureate newydd ar Ddiwrnod Barddoniaeth 2021. Bydd yn ymgymryd â’r rôl hyd at Awst 2023, gan weithio’n galed er mwyn sicrhau bod barddoniaeth yn hygyrch, yn hwyliog, ac yn berthnasol i blant a phobl ifanc ar draws Cymru. Mae’r Children’s Laureate Wales yn chwaer-brosiect i Bardd Plant Cymru, ac mae’r ddwy rôl yn cyfrannu tuag at fagu cenhedlaeth iachach, fwy creadigol a mwy amrywiol o ddarllenwyr ac awduron ar draws Cymru. Mwy yma.
Chwilio am rywbeth hwyl i’w wneud fel teulu? Mae gennym straeon i’w mwynhau, rhigymau a chaneuon i’w rhannu a gemau a gweithgareddau hwyliog gan rai o awduron, darlunwyr a storïwyr gorau Cymru.