English Cymraeg

Manteision darllen

O fabis i blant yn eu blynyddoedd cynnar a’r holl ffordd drwodd i ddechrau’r arddegau, mae darllen yn dod â manteision dwfn ac eang a all gael effaith gadarnhaol ar fywydau plant, sy’n para gydol eu hoes.

A mother reading with her toddler

Mae cyd-ddarllen yn darparu cyfleoedd digymar ar gyfer cael ymwneud ar lafar rhwng plentyn a’i riant neu ofalwr. Ymysg y llu gweithgareddau plentyndod allweddol, fel chwarae â theganau, celf a chrefft neu rannu prydau bwyd, mae gan ddarllen ar y cyd werth arbennig o ran creu’r cyfleoedd hyn.

Ein hadroddiad Manteision Darllen

Sut mae darllen yn gwneud gwahaniaeth

Mae darllen yn cefnogi plant i…

  1. Goresgyn anfantais
  2. Datblygu gwell llesiant meddyliol, sgiliau cymdeithasol a pherthynas gref ag eraill
  3. Taro cerrig milltir iaith a lleferydd a gwneud yn well yn yr ysgol
  4. Datblygu dychymyg, tosturi a chreadigrwyd

Goresgyn anfantais

Byddan nhw’n profi gwell symudedd addysgol a symudedd cymdeithasol.

Mae’r rheiny sy’n cael eu magu mewn tlodi yn llai tebygol o barhau i fyw mewn tlodi fel oedolion.

Drwy gydol yr ysgol, maen nhw’n fwy tebygol o oresgyn y rhwystrau a achosir gan ddifreintedd.

Byddan nhw’n profi gwell symudedd addysgol a symudedd cymdeithasol.

  • Mae gan ddarllen er pleser y grym i helpu i liniaru anghydraddoldebau cymdeithasol-economaidd fel incwm teuluol isel a chefndir addysgol

Mae’r rheiny sy’n cael eu magu mewn tlodi yn llai tebygol o barhau i fyw mewn tlodi fel oedolion.

  • Mae gan blentyn sy’n cael ei fagu mewn tlodi, y mae rhywun yn darllen iddo yn bump oed, gyfle sylweddol uwch o lwyddiant economaidd yn ei 30au o’i gymharu â chyfoedion nad oes neb yn darllen iddyn nhw.

Drwy gydol yr ysgol, maen nhw’n fwy tebygol o oresgyn y rhwystrau a achosir gan ddifreintedd.

  • Mae cyd-ddarllen yn cael effaith unigryw a thrawsnewidiol ar gyrhaeddiad yn yr ysgol. Mae cyd-ddarllen gartref yn cael dylanwad cryfach dros berfformiad academaidd plant na goruchwyliaeth gan rieni, rheoli gwaith cartref neu fynychu gweithgareddau yn yr ysgol.
  • Mae plant difreintiedig sy’n cyflawni’n uchel ar ddiwedd cyfnod ysgol gynradd ddwywaith yn fwy tebygol o fod wedi cael rhywun yn darllen iddyn nhw gartref yn eu blynyddoedd cynnar, o’i gymharu â’u cyfoedion.
  • Mae plentyn sy’n ddarllenydd brwd yn darparu cyfleoedd dysgu hunan-symbylol iddo’i hunan sy’n gyfystyr â sawl blwyddyn o addysg.
  • Mae’r effaith a gaiff darllen er pleser ar gynnydd mewn geirfa, mathemateg a sillafu yn 16 oed, bedair gwaith yn fwy grymus nag ydyw addysg y rhieni neu statws cymdeithasol-economaidd y rhieni.
  • Bydd plant difreintiedig 11–14 oed sy’n darllen yn eu hamser eu hunain ac sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi gartref yn fwy tebygol o ennill tair Lefel‑A neu ragor, o’i gymharu â’r rheini nad ydyn nhw’n ymgysylltu â’r gweithgareddau hyn. 

Gwell llesiant meddyliol, sgiliau cymdeithasol a pherthynas gref ag eraill

Maen nhw’n teimlo’n fwy sicr ac yn datblygu cyswllt dwfn â rhieni / gofalwyr.

Mae ganddyn nhw rwtînau ac arferion iach.

Mae ganddyn nhw well sgiliau cymdeithasol-emosiynol

Mae ganddyn nhw well llesiant meddwl a hunan-barch.

Maen nhw’n teimlo’n fwy sicr ac yn datblygu cyswllt dwfn â rhieni / gofalwyr.

  • Fel gweithgaredd closio, mae cyd-ddarllen yn y blynyddoedd cynnar yn cefnogi datblygiad ymlyniad plentyn (pa mor ddiogel, sicr ac ymddiriedol y maen nhw’n teimlo o gwmpas eu rhiant neu ofalwr). Mae ymlyniad yn hanfodol ar gyfer sicrhau hapusrwydd, gallu cymdeithasol, a’r gallu i ffurfio cysylltiadau ystyrlon yn y dyfodol. Mae bod eu rhiant neu ofalwr ar gael iddynt yn ystod cyd-ddarllen yn cyfrannu at ymdeimlad plentyn o ddiogelwch.
  • Mae cyd-ddarllen yn creu cyfleoedd ar gyfer cael sylw ar y cyd ac agosrwydd emosiynol rhwng plentyn a’i riant / gofalwr. Mae cyd-ddarllen yn cynyddu cynhesrwydd rhiant, ac yn lleihau straen ar y rhiant, gan eu galluogi i ddarparu’r ymgysylltiadau sensitif a meithriniol y mae’i hangen ar eu plant i ffynnu.
  • Mae plant sydd â chyswllt sicr yn fwy tebygol o ddangos brwdfrydedd a thalu sylw yn ystod cyd-ddarllen, sy’n ysgogi’r rhiant neu ofalwr i ddarllen gyda nhw’n fwy aml ac yn atgyfnerthu cyfleoedd y plentyn i deimlo’n ddiogel, yn sicr ac wedi’i warchod.
  • Agweddau emosiynol cyd-ddarllen (e.e. cwtsho, gwenu, canu a chwerthin) sy’n hybu gweithgareddau ymenyddol y plentyn, y mae’i hangen i greu cyswllt sicr, nid sgiliau darllen y rhiant neu ofalwr.

Mae ganddyn nhw rwtînau ac arferion iach.

  • Mae cyd-ddarllen yn chwarae rhan mewn hybu trefn cyn cysgu ymlaciol a chysurol. Cysylltir trefn cyn cysgu sydd â sail ieithyddol â gwell argaeledd emosiynol o du’r rhiant a sylw gan y rhiant. Gall rwtînau gefnogi amgylchedd diogel, sefydlog a hawdd ei ragweld sy’n angenrheidiol ar gyfer hwyluso datblygiad iach plant.
  • Mae darllen er pleser hefyd yn cefnogi rwtînau yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae plant 11–14 oed sy’n darllen er pleser yn fwy tebygol o fabwysiadu ymddygiadiach. 

Mae ganddyn nhw well sgiliau cymdeithasol-emosiynol

  • Mae plant sy’n darllen mwy yn gwneud yn well mewn tasgau talu sylw ac mae’u lefelau gorfywiogrwydd yn is.
  • Cysylltir darllen â gwell sgiliau rhyngbersonol a chymdeithasol, gan helpu plant i ffurfio perthynas ystyrlon ageraill. 

Mae ganddyn nhw well llesiant meddwl a hunan-barch.

  • Drwy ddarparu dihangfa a chyfle i ymlacio, gall ddarllen weithredu fel ffactor warchodol yn erbyn y profiadau niweidiol a wynebir gan rai plant.
  • Bydd gan blant sy’n darllen er pleser yn rheolaidd well hunan-barch a rheolaeth emosiynol, gyda lefelau is o heriau emosiynol ac ymddygiadol fel gorbryder ac ymddygiad ymosodol na’r rhai nad ydyn nhw’n darllen er pleser.
  • Mae gan blant sy’n darllen lefelau uwch o lesiant meddwl ahapusrwydd. 

Cerrig milltir iaith a lleferydd a gwneud yn well yn yr ysgol

Mae ganddyn nhw well datblygiad ymenyddol, a mwy o allu gwybyddol a chadw sylw.


Mae ganddyn nhw barodrwydd gwell i fynd i’r ysgol a mwy o wybodaeth am y byd.


Mae ganddyn nhw ddatblygiad iaith a lleferydd gwell a sgiliau llythrennedd uwch.


Maen nhw’n gwneud mwy o gynnydd ar draws y cwricwlwm.

Mae ganddyn nhw well datblygiad ymenyddol, a mwy o allu gwybyddol a chadw sylw.

  • Bydd ymennydd plant yn profi’r gyfradd fwyaf o dyfiant yn eu pum mlynedd gyntaf, pan fydd eu hymennydd ar ei fwyaf agored ac ymatebol i’w hamgylchedd. Mae symbyliad o ddarllen llyfrau, chwarae, siarad, a chanu gyda rhiant neu ofalwr yn gwasanaethu swyddogaeth niwrolegol bwysig, gan wella tyfiant gwybyddol, corfforol, cymdeithasol ac emosiynol.
  • Mae cyd-ddarllen ymysg plant o gefndiroedd incwm isel yn gwella deffroad iach i’r ymennydd ym maes iaith, talu sylw, y cof, hunanreolaeth ac addasu.
  • Mae gan ddarllen er pleser fanteision cadarnhaol hirdymor ar ddatblygiad yr ymennydd. Bydd plant iau sy’n darllen mwy yn gwneud yn well mewn profion gwybyddol.

Mae ganddyn nhw barodrwydd gwell i fynd i’r ysgol a mwy o wybodaeth am y byd.

  • Mae gan blant sy’n dechrau darllen yn gynnar ac sy’n parhau i ddarllen drwy gydol eu plentyndod well gwybodaeth gyffredinol. Mae darllen yn helpu i roi hwb cychwynnol a chynnal taith addysgol barhaus plentyn.
  • Mae darllen yn gwella cyrhaeddiad addysgol. Drwy fwydo i mewn i ddatblygu sgiliau gwybyddol, mathau o resymu, cysyniadau cymhleth a chyfoeth y dychymyg, mae darllen yn cefnogi plant i ddatblygu galluoedd datrys problemau a deallusrwydd.

Mae ganddyn nhw ddatblygiad iaith a lleferydd gwell a sgiliau llythrennedd uwch.

  • Mae cyd-ddarllen yn darparu cyfleoedd digymar ar gyfer ymwneud ar lafar rhwng plentyn a’i riant neu ofalwr. Ymysg y llu gweithgareddau allweddol yn ystod plentyndod fel chwarae gyda theganau, celf a chrefft neu rannu prydau bwyd, mae gan gyd-ddarllen werth arbennig o ran creu’r cyfleoedd hyn.
  • Mae cyd-ddarllen yn cynnig cyfle i blant ymwneud â geirfa gyfoethog a newydd mewn cyd-destun ystyrlon.
  • Mae cyd-ddarllen yn hwyluso gallu plant i ddysgu geiriau. Oherwydd bod y ffocws yn llwyr ar y stori, nid yw plant yn gorfod ymddatod geiriau newydd o lif gweithgareddau sy’n digwydd o’u cwmpas, fel y byddai’n rhaid iddynt wneud mewn amgylchedd chwarae rhydd.
  • Mae sawl mantais o gyd-ddarllen o ran deilliannau iaith a llythrennedd plant yn y blynyddoedd cynnar, sy’n cefnogi parodrwydd i fynd i’r ysgol. Yn eu plith mae maint yr eirfa, sgiliau iaith ar lafar, ymwybyddiaeth o’r gair wedi’i argraffu, adnabod geiriau a sgiliau deall.
  • Mae effaith cyd-ddarllen ar lythrennedd yn unigryw. Ymysg gweithgareddau dysgu gartref fel help a roddir gan riant gyda darllen ac ysgrifennu, chwarae cerddoriaeth neu ddysgu’r wyddor, dim ond cyd-ddarllen sy’n cael dylanwad cadarnhaol ar asesiad llythrennedd ar ddiwedd Derbyn.
  • Mae effaith cyd-ddarllen ar lythrennedd yn hirhoedlog. Bydd plant y mae rhywun yn darllen iddyn nhw’n gyson yn bum mlwydd oed dros hanner blwyddyn ar y blaen o ran perfformiad darllen yn 15 oed, o’i gymharu â’r rheiny y mae rhywun yn darllen iddyn nhw’n anfynych neu ddim o gwbl. 

Maen nhw’n gwneud mwy o gynnydd ar draws y cwricwlwm.

  • Mae darllen er pleser yn datgloi llwyddiant academaidd ar draws y cwricwlwm, Bydd plentyn y mae rhywun yn darllen iddyn nhw yn 1–2 oed yn sgorio’n uwch o ran sgiliau darllen, sillafu, gramadeg a rhifedd yn 8–11 oed.
  • Mae darllen er pleser yn 10 oed a 16 oed yn cael effaith sylweddol ar sgoriau gwybyddol plentyn mewn geirfa, sillafu a mathemateg yn 16 oed.
A secondary school aged boy is reading a book

Datblygu dychymyg, creadigrwydd a thosturi

Mae ganddyn nhw fwy o dosturi at eraill.

Maen nhw’n fwy dychmygus a chreadigol.

Mae ganddyn nhw fwy o dosturi at eraill.

  • Mae tosturi’n cyfeirio at y gallu i werthfawrogi, teimlo, deall a pharchu profiadau pobl eraill. Mae cyd-ddarllen yn meithrin galluoedd theori’r meddwl a sgiliau empathetig.
  • Gall straeon gynnig drych’ realistig a chredadwy o’u bywydau a’u profiadau hwy’u hunain, a ffenestr’ i weld profiadau eraill drwyddi. Pan fydd plant yn cymryd rhan yn emosiynol mewn stori, maen nhw’n teimlo cyswllt â’r profiad dynol ehangach, ac yn gweld eu bywydau fel rhan o hynny. Gall hyn fod yn drawsnewidiol o ran datblygu’u tosturi.
  • Bydd gan blant sy’n darllen llyfrau sy’n cynnig cyfleoedd i dosturio â’r cymeriadau lefelau uwch o empathi, yn enwedig tuag at grwpiau sy’n wynebu cael eu difrïo.

Maen nhw’n fwy dychmygus a chreadigol.

  • Mae ymgysylltu â straeon yn meithrin yr anian a’r sgiliau sy’n greiddiol i greadigrwydd plentyn drwy gydol ei blentyndod. Bydd straeon sy’n cynnwys elfennau dychmygus a hudol yn galluogi meddyliau plant i oresgyn eu cyd-destun uniongyrchol, gan eu rhyddhau oddi wrth ddull gosodedig o feddwl.
  • Drwy ffurfio ac ailffurfio’n barhaus eu disgwyliadau am yr hyn a allai ddigwydd mewn stori, bydd darllenwyr ifanc yn ymarfer hyblygrwydd meddyliol, y gallu i fod yn agored i sefyllfaoedd a dehongliadau newydd, a’r gallu i ddatrys problemau.
  • Gall stori hefyd symbylu dramateiddio, gan alluogi plant i ddefnyddio’u dychymyg i ddelweddu, mynegi ac actio sefyllfa.
  • Bydd plant y mae rhywun yn darllen iddyn nhw’n dair oed yn gwneud mwy o gynnydd o ran datblygiad creadigol ar ddiwedd y Derbyn na’r rheiny nad oes neb yn darllen iddyn nhw. 

Manteision darllen wrth i blant dyfu

0–2 oed

  • Creu rhwymyn perthynas ac adeiladu perthynas ag eraill
  • Iaith a lleferydd
  • Sylfaen ar gyfer meddwl

3–4 oed

  • Parodrwydd i fynd i’r ysgol
  • Llesiant a gwytnwch
  • Egin-lythrennedd
  • Meddwl, cof a chreadigrwydd

5–8 oed

  • Gwybodaeth gyffredinol a chyrhaeddiad
  • Llesiant, gwytnwch a chyrhaeddiad
  • Iaith a llythrennedd
  • Meddwl, cof, talu sylw a chreadigrwydd

9+ oed

  • Gwybodaeth gyffredinol a chyrhaeddiad
  • Llesiant, tosturi a deallusrwydd emosiynol
  • Iaith a llythrennedd
  • Meddwl, cof a chreadigrwydd

Adroddiadau, cyfeiriadau ac eitemau i’w lawrlwytho

Lawrlwythwch yr adroddiad isod i weld y fersiwn pdf yn Gymraeg neu Saesneg. Mae’r ddogfen hon yn cynnwys gwybodaeth gyfeiriadol hefyd.

An illustration showing a man and a young child painting pictures on a table.

Ein hymchwil

Mae ein hymchwil a’n gwaith gwerthuso’n ein helpu i ddysgu’n barhaus sut i ysbrydoli plant i ddarllen er pleser. Dewch o hyd i ymchwil ac adroddiadau ar draws y blynyddoedd cynnar, cynradd, uwchradd a darllen ehangach er pleser, a dysgwch pa effaith y mae ein rhaglenni’n eu cael ar blant a theuluoedd.

Dysgu rhagor