Manteision darllen
O fabanod i blant yn eu blynyddoedd cynnar a’r holl ffordd i’r arddegau cynnar, mae darllen yn cynnig manteision dwys a hynod amrywiol a all gael effaith gadarnhaol gydol oes ar fywydau plant.
Ein crynodeb o’r dystiolaeth
Mae’r crynodeb o dystiolaeth hwn, a luniwyd mewn partneriaeth â’r Brifysgol Agored, yn cynnig golwg drwyadl ar y ffyrdd niferus y mae darllen yn cynorthwyo plant. Rydym wedi manteision ar gannoedd o astudiaethau achos i ddatblygu ein canfyddiadau.
Pethau allweddol a ddysgwyd
Mae darllen yn cynorthwyo plant i:
Oresgyn anghydraddoldebau cyn iddynt ddwysau
Gallant sicrhau gwell symudedd addysgol a chymdeithasol. Mae plant sy’n cael eu magu mewn tlodi yn llai tebygol o aros mewn tlodi fel oedolion. Drwy’r ysgol, maent yn fwy tebygol o oresgyn y rhwystrau a achosir gan anfantais.
Creu cysylltiad â’r rhai sy’n rhoi gofal iddynt a mwynhau llesiant meddwl gwell
Mae teimladau o ddiogelwch a chysylltiadau â rhieni/gofalwyr yn cael eu gwella. Mae plant yn fwy tebygol o fod a threfnau ac arferion iach. Maent yn fwy tebygol o fwynhau gwell llesiant meddwl, hunan-barch a sgiliau emosiynol-gymdeithasol.
Cyrraedd cerrig milltir datblygu cynnar a gwneud yn well yn yr ysgol
Mae datblygiad yr ymennydd, sylw a gallu gwybyddol i gyd yn cael eu gwella. Mae plant yn fwy parod ar gyfer yr ysgol ac yn gwneud mwy o gynnydd ar draws y cwricwlwm. Mae ganddynt well datblygiad iaith a lleferydd a sgiliau llythrennedd.
Datblygu empathi, creadigrwydd a dychymyg
Mae plant yn datblygu empathi drwy ddarllen ffuglen. Maent yn datblygu sgiliau datrys problemau creadigol, ac maent yn datblygu eu creadigrwydd a’u dychymyg.
Mae sawl astudiaeth hydredol fawr yn dangos bod pobl ifanc sy’n datblygu’r arfer o ddarllen yn gynnar yn eu plentyndod yn debygol o ennill cymwysterau da a symudedd cymdeithasol am i fyny yn ddiweddarach. Ynghyd â manteision datblygiadol darllen, sydd wedi cael sylw eang, mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu bod darllen yn ysgogiad grymus i leihau anghydraddoldebau.
Yr Athro Teresa Cremin, Cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Llythrennedd a Chyfiawnder Cymdeithasol yn y Brifysgol Agored
Ffeithlun: manteision darllen wrth i blant dyfu
Mwy o waith ymchwil BookTrust
-
Find out why reading to babies gives them a head start in being able to focus, concentrate and learn.
-
Research with families from low-income backgrounds in the UK.
-
Archwiliwch ein hadroddiad effaith diweddaraf a darganfod sut rydyn ni’n gweithio ym mhob cymuned yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i annog teuluoedd i ddarllen.
Astudiaethau achos
-
Foster carer, Elaine, shares how BookTrust’s Letterbox Club parcels have helped her 9‑year-old foster son build his confidence through a daily reading routine, and brought them closer together.
-
Lee and Luke from Cornwall share their experiences of how WILD Young Parents Project has supported them to explore the fun of sharing books and story-related activities with their families using BookTrust resources – and what they feel their children have gained from this.
-
In collaboration with BookTrust, Frank Cottrell-Boyce, the Waterstones Children’s Laureate, visited a school nursery in Liverpool to see why story-sharing interventions during the Early Years are so vital for children.