Words and Rhyme
Edrychwch ar y fideo odli a gweithgaredd hwyliog yma gan Connor Allen, Children’s Laureate Wales 2021 – 2023.
Am Connor
Y Children’s Laureate Wales presennol yw’r bardd a’r perfformiwr Connor Allen, ac ef yw’r ail awdur i gamu i’r rôl. Cyhoeddwyd mai Connor oedd y Laureate newydd ar Ddiwrnod Barddoniaeth 2021. Bydd yn ymgymryd â’r rôl hyd at Awst 2023, gan weithio’n galed er mwyn sicrhau bod barddoniaeth yn hygyrch, yn hwyliog, ac yn berthnasol i blant a phobl ifanc ar draws Cymru. Mae’r Children’s Laureate Wales yn chwaer-brosiect i Bardd Plant Cymru, ac mae’r ddwy rôl yn cyfrannu tuag at fagu cenhedlaeth iachach, fwy creadigol a mwy amrywiol o ddarllenwyr ac awduron ar draws Cymru. Mwy yma.
Mwy o rigymau
-
Dewch i gael sbri gyda Dai’r Ffarmwr a’r anifeiliaid sy’n odli yn y rhigwm hwn mewn dwy ran gan Dai Woolridge, wedi’i addasu i’r Gymraeg gan Aneirin Karadog, ynghyd â gweithgareddau, lliwio, poster a mwy.