Gwerthusiad o Story Explorers

Darllenwch ein hadroddiad gwerthuso 2024–25 i wybod sut mae Story Explorers yn helpu i gryfhau arferion darllen a pherthnasoedd.

Canfyddiadau allweddol

Gall Story Explorers helpu i gryfhau arferion darllen a pherthnasoedd, sy’n bwysig gan fod profiadau perthynol syml a chyson yn helpu i ddatblygu ymdeimlad plant o barhauster, diogelwch a pherthyn.

  • Pan fo darllen ar y cyd yn rhyngweithiol a bod pawb yn ei fwynhau, mae plant yn fwy brwd am ofyn amdano, mae’r rhai sy’n rhoi gofal yn cael mwy o foddhad ohono, ac mae teuluoedd yn darllen gyda’i gilydd yn amlach. 
  • Mae darllen ar y cyd hefyd yn cynnig cyd-destun delfrydol ar gyfer cynhesrwydd, ymatebolrwydd a chysondeb – sylfeini ymddygiadol perthnasoedd cryf a chefnogol. 

Mae dyluniad Story Explorers yn cefnogi’r canlyniadau hyn. 

  • Mae’n cynnig newydd-deb sy’n tanio chwilfrydedd, archwilio ar y cyd a diddordeb parhaus. 
  • Mae’n cynorthwyo teuluoedd i gynnwys darllen ar y cyd mewn trefnau dyddiol sy’n helpu teuluoedd i greu mwy o adegau o agosrwydd.
  • Mae’n cefnogi ymdeimlad plant o berchnogaeth a galluoged sy’n annog eu cyfranogiad gweithredol.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Yn yr adroddiad byddwch yn gweld: 

  • Canfyddiadau allweddol o’n gwerthusiad 
  • Gwybodaeth fanwl am sut mae’r rhaglen yn gwneud gwahaniaeth
  • Astudiaethau achos gan gwsmeriaid a theuluoedd 
  • Safbwyntiau plant ar y rhaglen a sut mae darllen ar y cyd yn gwneud iddyn nhw deimlo

Astudiaethau achos partneriaid

Mae ymarferwyr yn rhannu eu safbwyntiau ar sut maen nhw wedi defnyddio Story Explorers i ymgysylltu â theuluoedd a’r gwahaniaeth y mae wedi ei wneud.

Tîm Gofal Amgen Caerfaddon a Gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf (BANES)

Trwy waith y Tîm Gofal Amgen, cymerodd 14 o deuluoedd gofal gan berthynas â phlant 2–4 oed ran yn Story Explorers, gan ddefnyddio tanysgrifiadau wedi’u hariannu’n llawn yn rhan o’r rhaglen o waith ar gyfer Strategaeth Gofal gan Berthynas Genedlaethol yr Adran Addysg. Yn BANES, neilltuir gweithiwr i bob teulu gofal gan berthynas, sydd â phwyntiau cyswllt rheolaidd gyda’r teulu. Mae hwn yn gyfle gwych i ddarganfod sut mae’r teuluoedd yn defnyddio’r pecynnau ac i gael safbwyntiau gwerthfawr wrth hyrwyddo ac annog teuluoedd i ddefnyddio’r adnoddau.

Mae Story Explorers yn gyfle gwirioneddol hyfryd i gynnig i’n gofalwyr. Mae’n cynnig cymorth gweladwy sy’n hwyl ac yn ddifyr, gan hyrwyddo ymlyniad a chysylltiad yn weithredol. Mae’n braf gallu cynnig rhywbeth y tu hwnt i gyngor a chyfarwyddyd, oherwydd nid yw gofalwyr yn aml yn derbyn adnoddau ymarferol y gallant eu defnyddio gartref. Er ein bod ni’n cynnal gweithgareddau a grwpiau cymorth, mae hyn yn cefnogi’r berthynas rhwng y gofalwr a’r plentyn yn uniongyrchol mewn bywyd teuluol bob dydd, sy’n ei wneud yn adnodd gwirioneddol werthfawr a pharod i’w ddefnyddio.

Cat Reeves, Dirprwy Reolwr Tîm, Tîm Lleoli Teuluoedd

National Fostering Group

Mae’r National Fostering Group yn darparu Story Explorers i deuluoedd ar draws 11 o’i asiantaethau. Mae eu Pennaeth Effaith yn sicrhau bod ymarferwyr yn gymaint o ran o’r rhaglen â’r teuluoedd. Mae’r model darparu cartref misol yn golygu ei fod yn hawdd ei drefnu. Mewn rhai asiantaethau, mae ymarferwyr wedi creu grwpiau WhatsApp i ofalwyr rannu lluniau, syniadau ac anogaeth (mae tua thraean o ofalwyr maeth yn cymryd rhan fawr yn y grŵp mewn un asiantaeth), tra bod eraill yn defnyddio sesiynau goruchwylio misol i gadw golwg a gweld sut mae’r rhaglen yn mynd.

Mae rhoi’r amser hwnnw iddyn nhw, yr amser un i un hwnnw, mae wir yn helpu gyda’r creu cysylltiad a rhoi rhywbeth iddyn nhw y gall y ddau ohonynt ganolbwyntio arno gyda’i gilydd – yr hwyl yma.

Gweithiwr Cymorth Teuluol, National Fostering Group

Cysylltwch â ni

Darganfyddwch fwy

Rhaglen seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer plant blynyddoedd cynnar mewn teuluoedd mabwysiadol, maeth a gofal gan berthynas yw Story Explorers. Gan weithio gyda phartneriaid allweddol sy’n cynnwys Adoption Focus, Kinship a’r Rhwydwaith Maethu, cyd-ddyluniwyd y rhaglen gyda bron i 100 o rieni, gofalwyr a phlant â phrofiad bywyd. Mae’r rhaglen yn cynorthwyo teuluoedd i ddatblygu cysylltiadau cryf a theimladau o ymlyniad trwy ddatblygu ymdeimlad o gysur, sefydlogrwydd a pherthyn trwy rannu straeon llawen gartref.

Mae teuluoedd sy’n cymryd rhan yn derbyn chwe phecyn misol, wedi’u danfon yn syth i’w cartrefi, pob un yn cynnwys llyfrau ac adnoddau sy’n cynnig dulliau ystyrlon ac ymarferol i ofalwyr gefnogi amgylchedd cartref magwrol.

I ymarferwyr, mae Story Explorers yn cynnig adnodd y gellir ei ymwreiddio yn eu harfer, gan gynnig gweithgaredd cartref cyson sy’n cryfhau sefydlogrwydd teuluol ac yn cefnogi canlyniadau cadarnhaol i blant.

Mae ein model rhesymeg rhaglen yn esbonio hyn yn fwy manwl.

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn