Sut mae darllen yn esblygu yn y blynyddoedd cynnar: mewnwelediadau hydredol gan deuluoedd
Mae’r papur briffio ymchwil hwn yn darparu dealltwriaeth fanwl o sut mae arferion darllen plant yn esblygu yn ystod eu blynyddoedd cyntaf allweddol. Clywsom yn uniongyrchol gan deuluoedd am eu profiadau o gymorth darllen, gan ein helpu i ddeall eu hanghenion newidiol a sut y gallwn eu cefnogi.
Beth mae’r ymchwil yn ei ddweud wrthym?
Mae’r ymchwil hon, sy’n seiliedig ar astudiaeth ansoddol hydredol o 22 o deuluoedd ar incwm isel, yn amlygu sut mae ymddygiadau ac agweddau darllen yn esblygu wrth i blant dyfu, wedi’u llunio gan anghenion ac amgylchiadau penodol. Er bod darllen yn chwarae nifer o rolau sy’n gorgyffwrdd ym mhob cam o blentyndod cynnar – rolau fel bondio, dysgu a chwarae – mae gwahanol agweddau ar ddarllen o fwy o arwyddocâd ar wahanol gamau datblygiad.
Mae’r ddelwedd isod yn dangos y ffordd amlycaf y mae darllen yn nodwedd o fywydau plant wrth iddynt dyfu.
Esblygiad darllen ar draws y blynyddoedd cynnar
Yn y papur briffio hwn rydym yn mynd trwy bob cam yn y blynyddoedd cynnar yn eu tro, gan edrych ar gyd-destun y teulu, sut olwg sydd ar ddarllen a rhannu straeon, a phrofiadau o gefnogaeth. Rydym yn gwneud hyn trwy leisiau teuluoedd, gan ddod â’u teithiau darllen yn fyw.
Lawrlwytho’r papur briffio
Sut rydym yn cefnogi teuluoedd yn y blynyddoedd cynnar
Mae ein hymchwil yn amlygu bod cefnogi teuluoedd wrth iddynt lywio’r gwahanol rannau o’r daith blynyddoedd cynnar yn gofyn am ymgysylltu ar wahanol adegau, wedi’i deilwra i’w hanghenion penodol ar y pryd.
Mae ein rhaglenni Dechrau Da yn canolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar gan ein bod yn gwybod pa mor bwysig yw dechrau darllen a rhannu straeon yn gynnar. Diolch i rwydwaith anhygoel o bartneriaid gan gynnwys awdurdodau lleol, lleoliadau blynyddoedd cynnar, ysgolion, llyfrgelloedd a mwy ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, rydym yn gallu cyrraedd teuluoedd lle maen nhw, yn eu cymunedau lleol. Fel yr amlinellir yn y diagram isod, mae ein rhaglenni yn rhychwantu gwahanol gamau i ddiwallu anghenion ar yr adegau penodol hyn, trwy lyfrau ac adnoddau wedi’u curadu ac sy’n briodol i oedran. Dysgwch fwy am ein rhaglenni.
Rhaglenni BookTrust ar draws y blynyddoedd cynnar

Dysgwch fwy am ein rhaglenni
Archwiliwch yr hyn rydyn ni’n ei gynnig i helpu teuluoedd i fwynhau darllen gyda’i gilydd
Gweler ein holl raglenni