Adeiladu sylfeini cryfion i blant ledled Cymru drwy lyfrau a chyd-ddarllen
Nawr yw’r adeg i gryfhau’r gefnogaeth ar gyfer darllen yn y blynyddoedd cynnar, er mwyn i bob plentyn yng Nghymru allu elwa o fanteision llyfrau a chyd-ddarllen o ddechrau cynharaf eu bywyd. Rydyn ni’n galw am fuddsoddiad hirdymor yn rhaglenni darllen BookTrust Cymru, sy’n cynnig cefnogaeth hanfodol er mwyn i deuluoedd yng Nghymru allu cael mynediad i lyfrau a datblygu cariad gydol oes at ddarllen.
Teuluoedd yn defnyddio llyfrau dwyieithog BookTrust Cymru a chefnogaeth ddarllen yn ystod sesiwn Dechrau Da mewn llyfrgell.
Y blynyddoedd cynnar sy’n gosod y sylfeini ar gyfer iaith, llythrennedd, llesiant a chyfleoedd plant i’r dyfodol, Mae cyd-ddarllen yn chwarae rhan hanfodol o ran adeiladu’r sylfeini hynny, ond dywed llawer o deuluoedd wrthym y bydden nhw’n gwerthfawrogi cael mwy o gefnogaeth i ddarllen a rhannu straeon gyda’i gilydd.
Ledled Cymru, mae rhaglenni dwyieithog BookTrust Cymru’n helpu teuluoedd i wneud darllen yn rhan o fywyd bob-ddydd, gan adeiladu arferion sy’n cefnogi datblygiad plant ac sy’n para gydol oes. I lawer o blant, bydd y llyfr cyntaf y byddan nhw’n berchen arno’n dod drwy gyfrwng rhaglen BookTrust Cymru. I ran rhieni, sesiwn amser stori leol yw’r lle ble byddan nhw’n darganfod ffyrdd syml, pleserus o rannu llyfrau gyda’u plentyn yn y misoedd cyntaf.
Gan weithio law yn llaw â llyfrgelloedd, gwasanaethau iechyd, ysgolion lleoliadau Dechrau’n Deg a phartneriaid cymunedol, mae rhaglenni BookTrust Cymru, a arweinir gan dystiolaeth, a’u darparu yn Gymraeg a Saesneg, yn darparu llyfrau dwyieithog o ansawdd uchel, adnoddau a chanllawiau sy’n helpu plant i ddatblygu sgiliau iaith a llythrennedd cynnar, cryfhau perthynas o fewn teuluoedd a meithrin cariad gydol oes at ddarllen.
Mae cyd-ddarllen yn ffordd syml ond grymus o gefnogi datblygiad plant, meithrin yr iaith Gymraeg a rhoi’r hyder i deuluoedd fwynhau llyfrau gyda’i gilydd yn Gymraeg, Saesneg, neu’r ddwy iaith. Gall buddsoddi parhaus mewn darllen yn y blynyddoedd cynnar sicrhau fod mwy o blant a theuluoedd yn elwa o’r cyfleoedd hyn.
“Efallai mai dyma’r unig lyfr sydd gan deuluoedd yn y cartref”
Yn ôl ymchwil diweddar gan BookTrust, mae 92% o rieni a gofalwyr yng Nghymru’n mwynhau darllen gyda’u plant, ond dim ond rhyw hanner o blant sy’n cael rhywun yn darllen iddyn nhw’n ddyddiol.
A dywedodd 46% yr hoffen nhw gael mwy o wybodaeth a chefnogaeth er mwyn helpu’u plentyn i dreulio mwy o amser gyda llyfrau a straeon.
“Mae bron i hanner y rhieni’n dweud wrthym yn weithredol eu bod nhw eisiau mwy o help,” meddai Julie Hayward, Cyfarwyddwr Partneriaethau gyda BookTrust. “Mae teuluoedd yn gofyn am gefnogaeth ymarferol, gwybodaeth a chyfleoedd i’w helpu i adeiladu arferion darllen gartref.”
Mae gan wasanaeth llyfrgelloedd Sir Ddinbych dîm Dechrau Da penodedig. Maen nhw’n defnyddio rhaglenni Dechrau Da BookTrust Cymru gyda theuluoedd yn eu cymuned i hybu’u hyder wrth rannu llyfrau gyda’i gilydd, yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Drwy gyfrwng eu sesiynau amser stori dwyieithog wythnosol yn y llyfrgell, mae’r tîm yn modelu sut y gall teuluoedd ddefnyddio llyfrau gyda’u babis a’u plant bach mewn ffordd hygyrch a hwyliog. Maen nhw’n defnyddio rhaglenni Dechrau Da Babi, Dechrau Da Plant Lleiaf a Dechrau Da i Blant Bach BookTrust Cymru yn ystod y sesiynau hyn, cyn rhoi’r pecynnau llyfrau’n rhodd i’r teuluoedd fynd adref gyda nhw, i’w cadw, a’u defnyddio i rannu straeon a datgloi manteision grymus cyd-ddarllen.
Oherwydd dwi’n fam newydd, dwi ddim yn gwybod sut i ddarllen llyfr, canu caneuon, na sut i symud ymlaen gyda darllen, Ond dwi wedi dysgu hyn oll fan hyn.
Yn ôl un fam sy’n mynychu’r amser stori gyda’i babi
Nid dim ond am fod yn eiddo ar lyfrau y mae rhaglenni Dechrau Da. Mae pob rhaglen yn darparu canllawiau ymarferol a hyder er mwyn i deuluoedd wybod sut i rannu straeon o fisoedd cyntaf bywyd plentyn.
Meddai Rachel Smith, Aelod o Dîm Dechrau Da yn Sir Ddinbych: ‘O fewn i sesiwn, gallwn ni arddangos y pecynnau Dechrau Da yna. Gallwn ni ddangos y llyfr i deuluoedd, dangos ffyrdd gwahanol o’i rannu gyda’u babi. Dwi’n meddwl ei bod hi wir yn bwysig i gael y modelu yna, a’u bod nhw’n gallu gweld mewn gwirionedd, ei fod yn beth hawdd iawn i’w wneud.”
Dywedodd rhiant arall oedd yn mynychu’r sesiwn gyda’i phlentyn bach: “Mae gan y pecynnau Dechrau Da lyfrau hyfryd ynddyn nhw, a gallwn ni eu defnyddio i chwarae gemau, fel pi-po. Mae llawer o wybodaeth hefyd am yr hyn y gallwn ni ei gael ohonyn nhw. Mae [fy mab] bellach yn deall beth yw llyfr, sut i droi’r tudalennau. Fe ddechreuodd hynny oll yn y fan hon.”
Efallai mai’r pecyn hwnnw y bydd teuluoedd yn ei dderbyn fydd yr unig lyfr sydd ganddyn nhw gartref. Mae’n wirioneddol bwysig fod pob plentyn yn ei dderbyn. Mae canlyniadau bywyd gymaint yn well os ydych chi’n darllen gyda’ch plant lleiaf.
Meddai Donna Hugh-Jones, Arweinydd Tîm Dechrau Da yn Sir Ddinbych
Aelod o dîm Dechrau Da Sir Ddinbych yn defnyddio rhaglenni cyd-ddarllen BookTrust Cymru gyda theuluoedd mewn llyfrgell.
‘Nawr yw’r adeg i gryfhau’r gefnogaeth i ddarllen ar gyfer teuluoedd yng Nghrymu – nid torri’n ôl arno’
Ar adeg pan fo pryderon am safonau llythrennedd yn tyfu ledled Cymru, dyw hi erioed wedi bod yn fwy pwysig i fuddsoddi mewn cyd-ddarllen.
“Mae hi wedi bod yn adeg anodd i BookTrust Cymru,” meddai Sioned Jacques, Rheolwr Partneriaethau gyda BookTrust Cymru. “Roedd gennym ni rhai rhaglenni sefydlog er mwyn i blant, yn enwedig y rheiny o deuluoedd incwm isel, gael o leiaf un ymyrraeth ddarllen yn ystod eu pum mlynedd gyntaf. Rydyn ni wedi colli ein cyllid, a nawr rydyn ni wedi disgyn i ddim ond tair rhaglen.”
Mae rhaglenni BookTrust Cymru, a seilir ar dystiolaeth, yn helpu i oresgyn rhwystrau i ymgysylltu â llyfrau a chyd-ddarllen, gan gefnogi teuluoedd i sefydlu arferion darllen o fisoedd cynharaf bywyd plentyn. Mae cryfhau’r gefnogaeth hon yn ffordd ymarferol a phrofedig i helpu i wella canlyniadau llythrennedd ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Ac fel y disgrifiwyd gan Anna Brychan, Gweinidog Addysg a’r Iaith Gymraeg, wrth iddi gyhoeddi Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol newydd Cymru: “Mae dyletswydd arnom i genedlaethau heddiw ac yfory i gael llythrennedd a rhifedd yn iawn.”
Ychwanega Sioned Jacques: “Gwyddom fod gennym broblem yng Nghymru ble mae lefelau llythrennedd plant yn isel. Dyna pam fod buddsoddi yn yr hirdymor mewn rhaglenni darllen i’r blynyddoedd cynnar yn cyfri. Mae’n helpu teuluoedd i sefydlu arferion darllen o fisoedd cynharaf bywyd plentyn, gan roi’r sylfeini cryfaf posib i blant ddatblygu iaith, sgiliau dysgu a llesiant. Nawr yw’r adeg i gryfhau’r gefnogaeth i ddarllen ar gyfer teuluoedd yng Nghrymu – nid torri’n ôl arno.”
Cyd-ddarllen mewn sesiwn Dechrau Da.
Darparu manteision llyfrau a chyd-ddarllen i deuluoedd ledled Cymru
Mae ein rhaglenni darllen dwyieithog yn cyrraedd at deuluoedd ymhob cod post yng Nghymru, gan helpu plant i ddatblygu sgiliau iaith a llythrennedd cynnar, cryfhau cysylltiadau teuluol ac adeiladu cariad gydol oes at ddarllen.
Darperir Dechrau Da Babi drwy gyfrwng gwiriad iechyd chwe mis oed babis mewn partneriaeth ag ymwelwyr iechyd fel rhan o Raglen Iechyd Plant Cymru. I rai teuluoedd, eu llyfr Dechrau Da Babi fydd y llyfr cyntaf y bydd eu plentyn yn berchen arno.
Dywedodd 60% o deuluoedd fod rhaglen Dechrau Da Babi wedi’u sbarduno i ddarllen neu rannu straeon yn Gymraeg yn fwy nag y bydden nhw wedi’i wneud fel arall o bosib
- Rydyn ni’n gweithio gyda’n partneriaid ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru i ddarparu ein rhaglenni Dechrau Da sy’n cefnogi teuluoedd i ddarllen gyda’i gilydd yn Gymraeg a Saesneg. Mae’r rhaglenni hyn, a seilir ar ymchwil, yn arfogi teuluoedd â llyfrau dwyieithog ac adnoddau o safon uchel sy’n cefnogi iaith a lleferydd plant, eu gallu i greu perthynas ac ymgysylltu, eu llesiant a’u sgiliau llythrennedd cychwynnol.
- Rydyn ni’n darparu llyfrau dwy iaith i deuluoedd sy’n siarad Saesneg neu Gymraeg fel iaith ychwanegol, Dros y flwyddyn ddiwethaf, rhoddwyd dros 1,100 o lyfrau dwy iaith mewn amrywiaeth o ieithoedd yn rhodd i deuluoedd ledled Cymru. Dyma’r effaith y mae’r rhaglen hon yn ei chael gyda theuluoedd a adsefydlwyd yng Nghaerdydd.
Mae cael mynediad cynnar i lyfrau a chefnogaeth i gyd-ddarllen yn hanfodol o ran cynnig y dechrau gorau i bob plentyn yng Nghymru. Bydd gweld buddsoddi parhaus, hirdymor yn y rhaglenni profedig hyn yn helpu i sicrhau y gall mwy o deuluoedd ledled Cymru elwa o’r gefnogaeth hon yn y blynyddoedd i ddod.
Rhannwch a dangoswch eich cefnogaeth dros gyllido cefnogaeth ddarllen yn y blynyddoedd cynnar yn hirdymor i bob plentyn yng Nghymru.