Meithrin perthnasoedd trwy rannu llyfrau

Mae’r briff hwn yn rhoi trosolwg o fewnwelediadau BookTrust ei hun ac ymchwil ehangach sy’n dangos bod darllen nid yn unig yn weithgaredd llythrennedd neu ddysgu, ond yn un perthynol hefyd.

Mam a’i mab mewn sesiwn Dechrau Da 

Ynglŷn â’r briff hwn

Gyda’r briff hwn, rydym yn gobeithio atgyfnerthu’r hyn y mae llawer sy’n gweithio ar draws polisi ac ymarfer eisoes yn ei gydnabod: bod rhyngweithiadau o ansawdd a pherthnasoedd cryf yn ganolog i ddatblygiad plant. Ond nid yw pob plentyn yn cael yr un cyfle i brofi hyn. Mae darllen ar y cyd yn cynnig ffordd bwerus o feithrin y cysylltiadau hollbwysig hyn, gan gefnogi canlyniadau gwybyddol, emosiynol a chymdeithasol plant.

Perthnasoedd yw sylfaen datblygiad plant

Mae dysgu a datblygiad plant wedi’u gwreiddio’n ddwfn mewn ymarfer cymdeithasol a pherthynol. Mae perthnasoedd gofal cynnar, yn enwedig y rhai sy’n meithrin perthnasoedd ac ymlyniad yn ganolog i ddatblygiad iach. Mae darllen ar y cyd yn darparu cyd-destun delfrydol ar gyfer y mathau o ryngweithiadau sy’n meithrin y perthnasoedd sylfaenol hyn.

Mae perthnasoedd ac ymlyniad yn cael eu meithrin trwy ryngweithiadau bob dydd, lle mae plant yn dysgu i ymddiried a theimlo’n ddiogel trwy ofal sensitif, ymatebol. Mae darllen ar y cyd yn darparu ffordd strwythuredig ond ysgafn o sgaffaldio’r cysylltiadau hyn, gan eu helpu i ddatblygu dros amser. Mae’n hyrwyddo cynhesrwydd, ymateboldeb a chysondeb – sylfeini ymddygiadol allweddol o ran ymlyniadau cryf a chanlyniadau datblygiadol cadarnhaol yn ehangach.

Mae darllen yn cefnogi rhyngweithiadau cyfoethog rhwng y rhoddwr gofal a’r plentyn

Mae tystiolaeth gynyddol o hap-dreialon a reolir o raglenni darllen ar y cyd yn dangos manteision i blant ac oedolion, a gyflawnir trwy gryfhau rhyngweithiadau rhwng y rhoddwr gofal a’r plentyn. Mae’r llwybrau allweddol yn cynnwys:

  • Gwella ymgysylltiad rhwng y rhoddwr gofal a’r plentyn: Mae darllen ar y cyd yn annog sylw a chysylltiad ar y cyd, gan helpu rhoddwyr gofal i gysylltu â’u plentyn.
  • Cynyddu cynhesrwydd a sensitifrwydd rhoddwyr gofal: Mae darllen ar y cyd yn darparu cyd-destun strwythuredig ar gyfer sylwi ar arwyddion plant ac ymateb gyda chynhesrwydd.
  • Lleihau’r straen y mae rhoddwyr gofal yn ei deimlo: Mae darllen ar y cyd yn darparu gweithgaredd rhagweladwy a phleserus sy’n credu awyrgylch tawel ac sy’n helpu rhoddwyr gofal i deimlo’n hyderus eu bod yn gallu cefnogi a chysylltu â’u plentyn.

Mae rhyngweithiadau o ansawdd yn annog arferion darllen

Nid yw meithrin perthnasoedd ac ymlyniad yn ganlyniadau darllen ar y cyd yn unig, maent hefyd yn rhan o gylch gwobrwyo i rieni a gofalwyr, sy’n mwynhau profi’r rhyngweithiadau cyfoethog ac ymatebol hyn. Pan fydd rhoddwyr gofal yn darllen mewn ffordd gynnes, ryngweithiol, gan gysylltu â diddordebau ac anghenion eu plentyn, mae plant yn mwynhau llyfrau yn fwy. Mae hyn yn creu dolen adborth gadarnhaol, lle mae mwynhad plant yn gwneud i roddwyr gofal deimlo ei fod yn werth chweil, gan eu cymell i barhau i ddarllen.

Mae cymorth darllen yn y blynyddoedd cynnar yn fwyaf effeithiol pan mae’n cael ei ddathlu ac yn cael ei ddarparu mewn ffordd gadarnhaol. Mae cynnwys hyn o fewn y gwasanaethau craidd a ddarperir i deuluoedd, fel y gwasanaeth ymwelwyr iechyd, yn sicrhau manteision ychwanegol hefyd. Mae tystiolaeth yn dangos bod integreiddio cymorth darllen mewn ymweliadau iechyd yn cryfhau perthnasoedd teuluoedd â darparwyr gofal iechyd. Rhywbeth y mae partneriaid BookTrust yn ei wybod ac yn ei werthfawrogi.

Cynnwys darllen ym mywydau teuluoedd blynyddoedd cynnar

Yn BookTrust, rydym yn canolbwyntio ar greu profiadau darllen pleserus y gellir eu plethu i drefn ddyddiol teuluoedd. Rydym yn mabwysiadu dull integredig, gan arfogi partneriaid â’r llyfrau, yr offer a’r dysgu sydd eu hangen arnynt i helpu teuluoedd i greu’r eiliadau hyn o gyswllt. Trwy weithio yn y modd hwn, rydym yn sicrhau bod teuluoedd yn cael mynediad at y cymorth rydym yn ei roi mewn ffordd ragweithiol a theg – fel bod teuluoedd yn cael help heb orfod cymryd y cam cyntaf.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

I ddyfynnu’r adroddiad hwn: BookTrust (2025) Meithrin perthnasoedd trwy rannu llyfrau. Leeds: BookTrust

Gweminar: Meithrin perthnasoedd trwy rannu llyfrau (yn Saesneg)

Mae ein gweminar yn crynhoi canfyddiadau’r ymchwil ac yn eu harchwilio mewn sgwrs â’r awdur blynyddoedd cynnar poblogaidd Camilla Reid a Rebecca Humphreys, ymwelydd iechyd arbenigol sy’n arwain canolfan i deuluoedd Ysbytai Newcastle.

Mwy o ymchwil BookTrust