Mae pecyn y Storiwr yn becyn cymorth a ddatblygwyd i gefnogi ein partneriaid i rannu straeon gyda theuluoedd. Gellir ei ddefnyddio mewn lleoliadau gyda theuluoedd fel rhan o sesiynau adrodd straeon grŵp, neu gyda theuluoedd unigol gartref.
Gallwch rannu’r llyfrau, defnyddio propiau i’w helpu i ddod â nhw’n fyw, ac archwilio’r cardiau gweithgaredd am awgrymiadau pellach ar sut i ymestyn y straeon.
Helpwch deuluoedd i weld sut y gallant efelychu’r profiad adrodd straeon gartref trwy dynnu sylw at yr hyn rydych chi’n ei wneud, meithrin eu hyder, a phwysleisio nad oes angen iddo fod yn berffaith i’w plentyn ei fwynhau!
Nid pawb sydd wedi’u magu â llyfrau’n rhan o’u bywyd teuluol. Drwy ddangos i deuluoedd pa mor hawdd yw rhannu straeon, faint o hwyl y gellir ei chael, a’u helpu i ddeall sut mae’n gwneud gwahaniaeth, gallwch chi chwarae rhan hollbwysig wrth iddyn nhw ddechrau ar eu siwrnai ddarllen eu hunain.
Fe allech chi roi cynnig ar y canlynol:
- Rhoi gwybod i deuluoedd nad oes yna ‘ffordd anghywir’ o fwynhau straeon a llyfrau gyda’i gilydd. Does dim angen iddyn nhw eistedd yn dawel a darllen llyfr o glawr i glawr – gall edrych ar y lluniau a siarad am yr hyn maen nhw’n ei weld agor byd newydd sbon i’w plentyn.
- Dangos i deuluoedd sut y gall rhannu straeon ddechrau sgyrsiau gyda’u plant, sut y gall llyfrau a straeon fod yn fan cychwyn ar gyfer cael sgyrsiau gwahanol – am eu teimladau, am yr hyn maen nhw’n ei weld yn y parc, am y tywydd, am unrhyw beth bron!
- Tynnu sylw rhieni a gofalwyr at adegau pan fydd eu plant bach yn mwynhau’r stori, hyd yn oed mewn ffyrdd annisgwyl – edrych ar y lluniau, chwerthin ar leisiau gwirion – a rhoi sicrwydd iddyn nhw fod eu plant yn elwa mewn rhyw ffordd.
- Rhoi gwybod i deuluoedd nad oes rhaid i ddarllen fod yn berffaith – mwynhau llyfrau a straeon gyda’i gilydd mewn unrhyw ffordd sy’n gweithio iddyn nhw sy’n bwysig.