Antur Gofodwr | A Spaceman’s Adventure & Roced Roc a Rôl (Am yn ôl) | The Rock and Roll Rocket
Heddiw rydyn ni’n saethu i’r gofod gyda’r awdur ac actor Iwan Garmon.
Dyma ddywedodd Iwan: ‘Mae rhigwm, odl a chân yn allweddol er mwyn datblygu sgiliau ieithyddol a chyfathrebu mewn plant (ac oedolion!), felly cefais foddhad mawr yn creu adnoddau oedd yn hybu’r sgiliau hynny. Mae hi hefyd yn hanfodol cael hwyl, wrth gwrs!’
Mwy o rigymau
-
Cyfansoddwyd cân heddiw gan Laura Bradshaw (Tiwtor Canu Cymunedol a Cherddor) a Joseph Gnagbo (Ieithydd ac Athro).
-
Heddiw rydyn ni’n dysgu sut i wneud llun o anghenfil! Mae’r awdur a darlunydd plant Sean Chambers wedi ysgrifennu 3 rhigwm angenfilod ac wedi ffilmio fideo darlunio gyda’ch gilydd i chi ei fwynhau.
-
Mae gennym rywbeth arbennig iawn ar eich cyfer heddiw – rydyn ni’n archwilio lliwiau, y tywydd a’r tymhorau. Mae’r bardd a’r canwr Rufus Mufasa wedi cyfansoddi a pherfformio dwy gân newydd sbon i chi eu mwynhau.