Sut i siarad Am lyfrau: canllawiau trafod i ymarferwyr
Eleni, rydyn ni wedi rhannu gwybodaeth am lyfrau mewn gwahanol fformatau i ddarganfod beth sy’n gweithio orau i’ch myfyrwyr chi.
Mae crynodeb byr yn y canllawiau, fersiwn hirach ar ein gwefan ac yn y PowerPoint Bookbuzz, ynghyd â Ffilm Bookbuzz – pob un i’ch helpu chi i ymgyfarwyddo â llyfrau eleni cyn i fyfyrwyr wneud eu dewis
Isod mae rhai cwestiynau i ysgogi trafodaeth a helpu myfyrwyr i ddod o hyd i lyfr sydd o ddiddordeb iddyn nhw. Defnyddiwch y rhain ar gyfer trafodaethau dosbarth cyfan, mewn grwpiau llai neu ar gyfer gwaith pâr.
Meddyliwch am genre y llyfr…
• Meddyliwch am yr ateb a gawsoch yn y cwis Beth yw’ch hoff genre? Pa un o’r llyfrau yn y casgliad eleni sy’n cyd-fynd â’r genre hwnnw?
• A all llyfr fod â mwy nag un genre? Sut arall allech chi ddisgrifio neu feddwl am ‘genre’?
Meddyliwch am lyfrau neu ffilmiau yr ydych chi wedi’u mwynhau yn y gorffennol…
• Beth wnaethoch chi ei fwynhau am y llyfr neu’r ffilm?
Meddyliwch am eich hobïau a’ch diddordebau…
• Pa un o’r llyfrau Bookbuzz sydd â chysylltiadau â’ch hobïau neu ddiddordebau? Sut?
Ar ôl gwylio Ffilm Bookbuzz 2025…
• Pa un o’r llyfrau Bookbuzz sy’n tynnu’ch sylw? Pam?
• Beth ddywedodd yr awdur a dynnodd eich sylw neu a wnaeth y llyfr yn llai ddiddorol i chi? Pam?
• Pa un o’r llyfrau Bookbuzz ydych chi eisiau dysgu mwy amdano?