Y Deinosor Bach Yma / This Little Dinosaur
gan Coral Byers, darluniau gan Alberta Torres
Adapted by Elin Meek
Oedran diddordeb: 4 i 5
Oedran darllen: 5+
Cyhoeddwr Dref Wen, 2024
Am y llyfr hwn
Mae deg plentyn bach yn gwisgo fel deinosoriaid ac archwilio'u hamgylchedd drwy chwarae yn y llyfr stori a llun bywiog a llachar hwn. Ar bob tudalen, cyflwynir deino-blentyn newydd gyda symudiad neu weithgaredd a seilir ar chwarae –gan arwain at ddiweddglo hwyliog sy'n plygu allan o'r llyfr, wrth i bob un o'r deg deino-blentyn adael y feithrinfa ar ôl diwrnod prysur o chwarae.
Gyda'i dro rhythmig yng nghynffon stori glasurol This Little Piggy, a'i leoliad mewn ysgol feithrin sy'n dathlu chwarae esgus, cynlluniwyd y llyfr hwn gan ystyried plant cyn oedran ysgol. Mae hefyd yn fan cychwyn gwych ar gyfer datblygu sgiliau cyfri. Mae pob tudalen ddwbl yn cynnwys cymorth dysgu gweledol defnyddiol ar ffurf baner ar hyd y gwaelod sy'n dangos wyneb pob deinosor sy'n cael ei gyflwyno o'r newydd, ynghyd â'r rhif perthnasol.
Mae dysgu cynnar yn dod yn hwyl ac yn ddeniadol drwy gyfrwng darluniau amlwg, prysur a chwareus, a fydd yn gweld plant yn sylwi ar fanylion ac yn eu cysylltu â'u profiadau'u hunain o chwarae esgus.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Deg Deinosor Bach / Ten Little Dinosaurs
2 i 9 years
-
Cyfri Defaid
3 i 7 years
-
The Tour at School
2 i 7 years
-
Ant Party
3 i 7 years