English Cymraeg

The Little Match Girl Strikes Back

gan Emma Carroll, darluniau gan Lauren Child

Oedran diddordeb: 9 i 11
Oedran darllen: 7+

Cyhoeddwr Simon and Schuster, 2022

  • Adventure
  • Chapter books
  • Historical

Am y llyfr hwn

Mae Bridie, sy’n ddeuddeg oed, yn gwerthu matsis ar strydoedd Llundain yn oes Fictoria. Mae ei mam yn gweithio yn ffatri Bryant and May, sy’n ei gwneud yn sâl. Yna, un Nos Galan, mae Bridie yn tanio’i thair matsien olaf, sy’n cael effeithiau gwyrthiol.

Mae’n bosibl bod rhai darllenwyr yn gyfarwydd â stori The Little Match Girl, sydd ddim yn dod i ben yn hapus. Fodd bynnag, mae’r stori hon yn ailddychmygu digwyddiadau hanesyddol lle aeth menywod a oedd yn gweithio yn ffatri matsis Bryant and May ar streic oherwydd y tâl a’r amodau ofnadwy. Yn y stori hon, Bridie ydy eu hysbrydoliaeth.

Mae’n stori gyffrous, gyda darluniadau Lauren Child yn dod â Bridie yn syfrdanol o fyw.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn