English Cymraeg

1, 2, 3, Dawnsio Dawns y Deinosor / 1, 2, 3, Do the Dinosaur

gan Michelle Robinson, darluniau gan Rosalind Beardshaw
Adapted by Eurig Salisbury

Oedran diddordeb: 2 i 5

Cyhoeddwr Atebol Cyfyngedig, 2022

  • Picture books
  • Poetry and rhyme

Mae’r llyfr hwn ar gael hefyd mewn English

Am y llyfr hwn

Mae’n bryd dawnsio dawns y deinosor! Wyt ti’n barod?

Mae Tomi wedi gwisgo fel deinosor ac wedi dod â’i ffrindiau ynghyd i ddawnsio fel deinosoriaid drwy’r jyngl. I ddawnsio dawns y deinosor, mae’n rhaid i ti siglo dy gynffon, stompio dy draed ac – yn bwysicaf oll – RHUO!

O, na! Aros funud. Mae’r ffrindiau’n cael gymaint o hwyl ac yn gwneud cymaint o sŵn fel eu bod nhw wedi dal sylw’r T-Rex… Rhedwch! Drwy lwc, eisiau ymuno yn yr hwyl mae’r T-Rex a dangos ei sgiliau stompio. Ac mae’r cyfan yn naturiol iddo, wrth gwrs!

Mae 1, 2, 3, Dawnsio Dawns y Deinosor yn fywiog a hwyliog, ac yn cyfuno symudiadau a stori i greu profiad darllen llawen y bydd y plantos bach (a’r rhai mawr) wrth eu bodd yn ymuno ynddo. Mae’r rhigymu a’r rhythmau yn rhagorol, gyda geiriau fel sy’n berffaith i’w hadrodd yn uchel.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn