Rydym yn chwilio am weithiwr Blynyddoedd Cynnar gwych i gael ei enwi’n Rhannwr Straeon y Flwyddyn BookTrust!
Rydym eisiau dathlu un o’n partneriaid Blynyddoedd Cynnar gwych sy’n defnyddio rhaglenni BookTrust i ddod â hud llyfrau a darllen yn fyw i deuluoedd – ond mae angen eich help arnom i ddod o hyd i’r person hwnnw.
Efallai eu bod yn cydweithio â phartneriaid eraill mewn ffordd ddiddorol iawn, yn modelu sut i rannu straeon yn wych fel bod teuluoedd yn gallu rhoi cynnig arni gartref, neu’n wych am gael plant i siarad am lyfrau.
Enwebwch Rhannwr Straeon sydd wedi cael effaith wirioneddol ar y plant a’r teuluoedd maen nhw’n gweithio gydag erbyn y dyddiad cau sef 11pm ar 15 Medi ac fe allai ennill gwobr hyfryd!