Creu argraff gyda’ch adborth

Byddem wrth ein bodd o glywed gennych os ydych chi wedi derbyn un o'n pecynnau Dechrau Da Blwyddyn 1-2, Dechrau Da Blwyddyn 3-4, neu os ydych chi wedi defnyddio ein hadnoddau Storïwr.

Teuluoedd: Cliciwch yma i lenwi ein harolwg os gwelwch yn dda.

Partneriaid: Mae arolwg eleni’n fyw nawr!

Cliciwch yma os gwelwch yn dda i rannu eich meddyliau gyda ni am adnoddau Blynyddoedd Cynnar Plant Lleiaf / Blwyddyn 1-2 a Blynyddoedd Cynnar Plant Cyn Ysgol / Blwyddyn 3-4 a dderbynioch chi.

Mae’r arolwg yn cymryd rhyw 10 munud i’w lenwi, ac yn ddelfrydol, hoffem glywed oddi wrthych ar ôl i chi ddechrau dosbarthu neu ddefnyddio’r adnoddau gyda theuluoedd.

Yn y cyfamser, os hoffech gysylltu â ni, defnyddiwch y cyfeiriad e-bost hwn: [email protected]

Y llynedd fe wnaethon ni ddarparu ein peilot Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar i dros 400,000 o blant yn y blynyddoedd cynnar gyda chymorth ein rhwydwaith o dros chwe mil o bartneriaid cyflenwi. Diolch i bawb a rannodd eu barn gyda ni - rydym ni wedi defnyddio'r pethau ddywedoch chi wrthym i lunio cynllun y rhaglen eleni, a byddwn ni'n rhannu canfyddiadau'n nes ymlaen eleni.