Archebu a chasglu’ch pecyn Dechrau Da RHAD AC AM DDIM o’ch llyfrgell

Mae BookTrust Cymru yma i’ch helpu chi a’ch plentyn i ddechrau rhannu a mwynhau llyfrau, straeon a rhigymau gyda’ch gilydd.

Mae gan bob plentyn yng Nghymru hawl i ddau becyn Dechrau Da ffantastig cyn eu bod nhw’n dair oed, ac mae’r rhain nawr ar gael i’w harchebu a’u casglu yn rhad ac am ddim o lyfrgelloedd detholedig.

Wales Bookstart Baby and EY packs Welsh

Pam ei bod hi’n bwysig darllen yn gynnar

Oeddech chi’n gwybod bod cwta deg munud y dydd yn rhannu darllen yn gallu helpu’ch plentyn i dyfu i ddod yn ddysgwr hyderus?

Mae darllen gyda phlant o oedran cynnar iawn yn helpu i roi’r dechrau gorau posibl iddyn nhw mewn bywyd. Mae hi hefyd yn hwyl rhannu llyfr â phlentyn! Mae’n amser i fod yn agos, chwerthin a siarad â’ch gilydd, a bydd yn helpu’ch plentyn i ddod yn ddarllenwr gydol oes.

Sut alla’ i archebu?

Mae llyfrgelloedd detholedig nawr yn cynnig gwasanaeth Archebu a Chasglu sy’n golygu y gallwch chi archebu’ch pecyn Dechrau Da rhad ac am ddim dros y ffôn neu ar-lein. Unwaith y byddwch chi wedi’i archebu, byddan nhw’n rhoi gwybod ichi pryd a lle i gasglu’ch pecyn Dechrau Da a dechrau siwrnai ddarllen eich plentyn.

Dyma’r llyfrgelloedd sy’n cymryd rhan ar hyn o bryd:

Abertawe

Caerfilli

Sir Gâr - 01267 234567 / 01554 744315

Conwy

Sir Ddinbych

Sir y Fflint - 01352 703750 / [email protected]

Blaenau Gwent

Gwynedd 

Ynys Môn

Castell-nedd Port Talbot

Powys - gwahoddir rhieni ym Mhowys i gysylltu â'r gwasanaeth llyfrgell gan ddefnyddio'r llinell gymorth ceisiadau Clicio a Chasglu 01874 612394.

Rhondda Cynon Taf

Torfaen

Ydy’ch llyfrgell chi heb ei rhestru uchod?

Dewch yn ôl nes ymlaen i weld mwy fyth o lyfrgelloedd sydd ar ddod neu anfonwch e-bost i [email protected] i gael gwybod mwy.

Order and collect illustration