Pori Drwy Stori i deuluoedd

Mae Pori Drwy Stori’n rhaglen gyffrous sy’n seiliedig ar lyfrau, straeon a rhigymau. Bydd pob plentyn 4 i 5 oed mewn ysgolion a gynhelir yn cymryd rhan, gyda chyllid yn dod oddi wrth Lywodraeth Cymru. Mae BookTrust Cymru wedi gweithio gydag arbenigwyr o bob cwr o Gymru i ddatblygu adnoddau i athrawon, rhieni a gofalwyr, a phlant.

Bydd Pori Drwy Stori’n darparu deunyddiau dwyieithog ar gyfer ysgolion a theuluoedd:

Tymor yr Hydref

  • Ymunwch â ni ar siwrnai drwy rigymau a chaneuon yn Her Rigymu Pori Drwy Stori. Gallwch chi gael hwyl yn rhannu rhigymau a chaneuon â’ch gilydd ac yn cwblhau’r her! Bydd ein fforwyr Pori Drwy Stori’n eich helpu chi!
  • Fy Nghalendr Dyna Dywydd - dyma weithgaredd i'r teulu ar gyfer hanner tymor yr hydref. Bydd siarad am wahanol fathau o dywydd a'u cofnodi yn helpu eich plentyn i ddatblygu eu sgiliau lleferydd, iaith, cyfathrebu a mathemateg yn y blynyddoedd cynnar."

Tymor y Gwanwyn

  • Pecynnau Llyfr Pori Drwy Stori - pecyn i dy blentyn ei gymryd adref a'i gadw, gan gynnwys llyfr stori a llun dwyieithog o safon uchel, cylchgrawn gweithgareddau a thaflen llyfrgell."
  • Cardiau Ble Mae’r Ddafad – bydd pob plentyn yn derbyn set o gardiau Ble Mae’r Ddafad i fynd adref. Mae llawer o gemau hwyliog i’w chwarae gyda’r cardiau, yn y dosbarth ac yn y cartref.

Tymor yr haf

  • Fy Llyfr – adnodd unigryw o safon uchel sy’n rhoi cyfle i ddysgwyr greu eu llyfr eu hunain i’w gadw.
  • Cylchgrawn Her yr Ungorn – Cynlluniwyd cylchgrawn Her yr Ungorn i gael ei anfon adref gyda’r plant dros yr haf ar ddiwedd eu blwyddyn yn y Derbyn.

Gobeithio y byddwch chi a’ch teulu’n mwynhau cymryd rhan yn Pori Drwy Stori ac y byddwch chi’n cael llawer o hwyl gyda’ch gilydd yn rhannu cariad at lyfrau, straeon a rhigymau.

Dysgu yn y cartref

Gall Pori Drwy Stori helpu eich plentyn i fagu hyder gyda geiriau mewn ffordd hwyliog. Gallwch chi helpu eich plentyn i wneud yn fawr o Pori Drwy Stori drwy:

  • Ddysgu a dweud neu ganu’u rhigymau fel rhan o’r Sialens Rhigwm
  • Darllen a siarad am lyfrau gyda’ch gilydd gartref
  • Ysgrifennu eich adolygiad pum seren eich hun o lyfr eich plentyn a ysgrifennwyd ac a ddarluniwyd ganddo / ganddi fel rhan o Fy Llyfr.

Defnyddio eich llyfrgell

Bydd eich llyfrgell leol yn gallu rhoi llawer o syniadau a chyngor i chi am lyfrau ardderchog i gefnogi addysg eich plentyn. Mae llyfrgelloedd yn agored i bawb, ac mae’n rhad ac am ddim i ymuno, a gellir benthyca llyfrau am ddim hefyd, ac nid yw llyfrgelloedd yn codi dirwy ar lyfrau plant mwyach.

Mentrau Llywodraeth Cymru

Mae grŵp Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref Llywodraeth Cymru’n darparu gwybodaeth am sut y gallwch chi gefnogi eich plentyn yn y cartref a helpu eu perfformiad yn yr ysgol. Dilynwch y grŵp ar Facebook


Mae Amser i Siarad, Gwrando a Chwarae yn annog rhieni, gofalwyr a gwarchodwyr i roi amser i siarad, gwrando a chwarae er mwyn helpu datblygu sgiliau iaith a chyfathrebu’u plant. Dysgu rhagor

Gwrando ar ragor o straeon yn Gymraeg

Canllaw Teuluoedd

Canllaw Teuluoedd i Pori Drwy Stori

Bydd pob teulu yng Nghymru’n derbyn chwe adnodd Pori Drwy Stori llawn hwyl yn ystod blwyddyn y dosbarth Derbyn.

Gweithgareddau i deuluoedd

Gwylio neu wrando ar rigymau’r Her Rigymu

Gwylio neu wrando ar y rhigymau

Gallwch chi wylio neu wrando ar rigymau wythnosol yr Her Rigymu yma.

AmserGartref BookTrust Cymru

Chwilio am rywbeth hwyl i’w wneud fel teulu? Mae gennym straeon i’w mwynhau, rhigymau a chaneuon i’w rhannu a gemau a gweithgareddau hwyliog gan rai o awduron, darlunwyr a storïwyr gorau Cymru.

Dysgu rhagor