Cylchgrawn Her yr Ungorn

Mae’r cylchgrawn hwn o weithgareddau difyr wedi’i addasu eleni i’w roi i blant wrth iddyn nhw symud o’r flwyddyn Dderbyn i Flwyddyn 1.

Mae yna gysylltiad rhwng y gweithgareddau a deilliannau’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd ac mae’n annog y plant i ymarfer sgiliau gartref trwy chwarae gemau â rhiant neu ofalwr. Er mwyn creu cyffro ymhlith y plant ynglŷn â derbyn cylchgrawn, gall athrawon Blwyddyn 1 chwarae rhai o’r gemau yn y dosbarth yn gyntaf.

Cylchgrawn Her yr Ungorn

Lawrlwythwch y cylchgrawn

Mae cylchgrawn Her yr Ungorn yn llawn gweithgareddau a gemau sydd yn cefnogi datblygiad sgiliau rhifedd yn y Cyfnod Sylfaen.

Canllaw i Athrawon

Lawrlwythwch y canllaw i athrawon

Canllaw i athrawon gydag awgrymiadau a syniadau ar gyfer defnyddio adnodd Her yr Ungorn.

Fideos Her yr Ungorn

Fideos rhyngweithio

Dyma rai fideos rhyngweithiol i’ch helpu chi i gael hwyl gyda’ch cylchgrawn Her yr Ungorn. Ymunwch gydag anturiaethwyr Pori Drwy Stori a dechreuwch ar eich antur Her yr Ungorn!