Pecynnau Dechrau Da yng Nghymru
Gyda’ch help chi bydd plant o bob cwr o Gymru’n derbyn eu pecynnau Dechrau Da Babi a Blynyddoedd Cynnar. Dysgwch ragor am y pecynnau Dechrau Da cyfredol a chynghorion am sut i’w rhoi i deuluoedd.
Pecyn babi
Ar gyfer pwy y mae'r pecyn a phryd y gwneir rhodd ohono?
Mae'r pecyn ar gyfer babanod yng Nghymru. Mae ymwelwyr iechyd fel rheol yn gwneud rhodd o becynnau yn ystod archwiliadau iechyd pan fo'r babi yn 6 mis oed.
Mae'r pecyn yn cynnwys llyfr dwyieithog, wedi'i ddewis yn ofalus i apelio at blant ifanc iawn, llyfryn arbennig gyda syniadau ar gyfer rhannu llyfrau, straeon a rhigymau, pyped bys dwyochrog a thaflen gyda gwybodaeth am ymuno â'ch llyfrgell leol.
Pecyn Blynyddoedd Cynnar
Ar gyfer pwy y mae'r pecyn a phryd y gwneir rhodd ohono?
Mae'r pecyn yn cynnwys llyfr lluniau dwyieithog, llyfryn sy'n llawn syniadau ar gyfer rhannu llyfrau, straeon a rhigymau a thaflen gyda gwybodaeth am ymuno â'ch llyfrgell leol.
Gwneir rhodd o becyn Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar fel rheol yn ystod archwiliad iechyd 27 mis eich plentyn.
Beth yw'r ffordd orau o roi'r pecynnau hyn?
Wrth roi rhodd pecyn Dechrau Da i deulu, mae’n bwysig:
- Cyfleu neges gynnes a chalonogol o safon uchel am bleser a manteision rhannu llyfrau
- Dangos cynnwys y pecyn
- Gwahodd y teulu i ymuno â’r llyfrgell
- Rhoi gwybod iddyn nhw am unrhyw ddigwyddiadau lleol, fel amser stori a rhigwm, neu gyfleoedd dysgu perthnasol i deuluoedd