Wythnos Genedlaethol Dechrau Da 2018

Fe ymunodd teuluoedd â’r Ddawns Deryn Dechrau Da benigamp eleni, ac rydyn ni’n falch iawn ein bod ni wedi gwneud rhodd o fwy na 8,500 o lyfrau mewn digwyddiadau arbennig ledled Cymru. 

Family reading together at a National Bookstart Week event in Wales 2018

Ac mae yna fwy o hwyl i ddod! Gallwch chi roi adenydd i’ch dychymyg gydol y flwyddyn â’n crefftau, ein rhigolau a’n hamseroedd stori arbennig iawn isod.

Bob blwyddyn, mae’r BookTrust yn trefnu Wythnos Genedlaethol Dechrau Da i ddathlu holl hwyl a budd rhannu straeon, llyfrau a rhigymau â’ch plantos bach o oedran mor ifanc â phosibl – dydy hi byth yn rhy gynnar i ddechrau!

Mum and baby reading A Busy Day for Birds at an event in Wales

Ein llyfr arbennig iawn eleni oedd A Busy Day for Birds / Diwrnod Prysur yr Adar, sydd wedi’i ysgrifennu a’i ddarlunio gan Lucy Cousins, a’i addasu gan Aneirin Karadog.

Hawlfraint © 2017 Lucy Cousins
O lyfr DIWRNOD PRYSUR YR ADAR gan Lucy Cousins
Wedi’i atgynhyrchu drwy ganiatâd Walker Books Ltd, Llundain SE11 5HJ
www.walker.co.uk

Gwyliwch ein fideos Amser Stori arbennig

Diwrnod Prysur yr Adar

A Busy Day for Birds

Gweithgareddau a rhigymau

Gwnewch eich tylluan wefreiddiol eich hun

Tw-whit tw-hŵ!

Beth am baratoi ar gyfer eich Dawns Deryn Dechrau Da? Y cyfan sydd angen ei wneud ydy argraffu ein dalen grefft ar bapur A4, ei lliwio i mewn, ei thorri allan a’i gludo at ei gilydd.

Yn greadigol â lliw

Adar i’w lliwio

Beth am roi pen rhyddid i’ch doniau creadigol? Argraffwch ein dalenni lliwio, bachu ychydig o greonau a dod â’ch adar yn fyw!

Rhannu rhigymau

Rhigymau i’w dweud a’u canu

Ymunwch â chôr yr adar gyda’n dalenni rhigymau dwyieithog a byddwch yn barod i Ddawnsio!

Gwrandewch ar y stori a’r rhigymau

Diwrnod Prysur yr Adar Darlleniad gan Llinos Mai - Cymraeg

Rhigymau Dawns Deryn Dechrau Da - Cymraeg

Rhigymau Dawns Deryn Dechrau Da - Saesneg