Cymerwch ran yn ein harolwg

Ydych chi wedi cael un o’n pecynnau Dechrau Da i Blant Bach neu Dechrau Da Meithrin? Rhannwch eich barn!

Mae’r arolwg hwn ar gyfer rhieni neu ofalwyr sydd wedi cael un o’n pecynnau Dechrau Da i Blant Bach neu Dechrau Da Meithrin. Rydym yn awyddus iawn i glywed eich barn a bydd eich adborth yn helpu BookTrust i wella’r ffordd y mae’n cefnogi plant a theuluoedd.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am yr arolwg, cysylltwch â’r tîm yn: [email protected]

Yr arolwg

  • Fydd yr arolwg ddim yn cymryd mwy na 10 munud i’w gwblhau.
  • Mae’n gwbl gyfrinachol.
  • Rydym yn defnyddio eich data personol at ddibenion ymchwil yn unig a gallwch chi ddewis peidio â rhoi eich manylion cyswllt os byddai’n well gennych.
  • Efallai y byddwn ni’n defnyddio unrhyw ddyfyniadau y byddwch chi’n eu rhoi yn ein deunyddiau adrodd neu hyrwyddo allanol, ond bydd y rhain yn gwbl ddienw.
  • Os hoffech chi ddarllen ein polisi preifatrwydd cyn cwblhau’r arolwg, cliciwch yma.

Cwblhau’r arolwg

Sylwch: Ymgymerir â holl ymchwil BookTrust yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data a rheolau'r Gymdeithas Ymchwil i'r Farchnad. Os ydych chi'n cytuno i rannu eich manylion cyswllt â ni, dim ond am 24 mis ar y mwyaf y byddwn ni'n eu cadw. Bydd BookTrust yn cadw'ch atebion i'r arolwg hwn hefyd, a byddan nhw wedi'u cysylltu â'ch manylion cyswllt am 24 mis ar y mwyaf i helpu i recriwtio ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.

Ni fydd eich manylion cyswllt personol yn cael eu defnyddio at unrhyw ddibenion eraill ac ni fyddan nhw'n cael eu rhannu â thrydydd parti. Bydd yr holl ddata'n cael eu cadw'n ddiogel, yn unol â rheoliadau GDPR. Ewch i’n polisi preifatrwyddthelerau ac amodau’r gystadleuaeth am fwy o fanylion.