Straeon i’w rhannu yn ystod blwyddyn gyntaf eich babi

Dyw hi byth yn rhy gynnar i ddechrau rhannu straeon gyda’ch gilydd, a gall fod yn ffordd wych o ddiddanu eich babi a chreu cwlwm.

Mae straeon yn lles i ddatblygiad eich babi, ond gwyddom y gall fod yn anodd weithiau penderfynu pa rai i’w dewis a phryd. Dyna pam ein bod ni wedi cynnwys ambell awgrym gwych ar gyfer pob carreg filltir datblygu yn ystod blwyddyn gyntaf eich babi.

 

0-3 Mis

Black and white imagesRhwng 0-3 mis mae llygaid eich babi’n dal i ddatblygu. Rhowch gynnig ar ganu rhigymau gyda nhw a rhannu llyfrau lluniau du a gwyn.

Beth am roi cynnig ar Amazing Baby: Black and White gan Emma Dodd

3-6 Mis

Baby in pink with All About Me

Rhwng 3-6 mis bydd llygaid eich babi’n gwella o ran ffocysu ac adnabod wynebau. Rhowch gynnig ar rannu llyfrau gyda drychau neu luniau o fabis eraill.

Beth am roi cynnig ar Lliwiau enfys pi-po! / Rainbow colours Peekaboo! gan DK / Dref Wen

6-9 Mis

Baby looking at 123 Splosh

Rhwng 6-9 mis bydd eich babi’n ceisio cydio yn nhudalennau’r llyfr. Rhowch gynnig ar lyfrau lliain a llyfrau cadarn â fflapiau i’w codi a’u mwynhau.

Beth am roi cynnig ar Who Said Woof? A lift-the-flap, touchy-feely book gan Yi-Hsuan Wu

9-12 Mis

Boy and mum reading Elmer

Rhwng 9-12 mis a thu hwnt fe all eich babi ddechrau ceisio dynwared synau wnewch chi. Bydd llyfrau â brawddegau syml yn eu helpu i ddysgu’r geiriau cyntaf cyffrous yna.

Beth am roi cynnig ar Lliwiau Hapus! / Happy Colours! gan Dref Wen

Black-and-white icons: Pixel Perfect a Alfredo Hernandez o flaticon.com