Dechrau Da yng Nghymru

Dydy hi byth yn rhy gynnar i ddechrau rhannu llyfrau, straeon a rhigymau â’ch plentyn. Trwy raglen Dechrau Da, mae BookTrust Cymru’n cefnogi teuluoedd ledled Cymru i ddarllen gyda’i gilydd yn rheolaidd.

Mae pob plentyn yng Nghymru’n cael derbyn dau becyn Dechrau Da arbennig cyn eu bod yn dair oed; mae eu Hymwelydd Iechyd yn eu rhoi i’w teuluoedd. Fel arall, mae pecynnau Dechrau Da ar gael i’w casglu i sawl llyfrgell yng Nghymru. Dewch o hyd i’ch llyfrgell leol yma.

Fe fyddwch chi’n gweld llawer o adnoddau difyr a gwybodaeth ddefnyddiol isod.

Ewch i Hyb Teuluoedd Blant Bach a Blant Cyn Oed Ysgol Cymru

Dechrau Da Babi

Gwneir rhodd o becyn Dechrau Da Babi fel rheol yn ystod archwiliad iechyd 6 mis eich plentyn. Mae'n cynnwys llyfr dwyieithog, wedi'i ddewis yn ofalus i apelio at blant ifanc iawn, llyfryn gyda syniadau ar gyfer rhannu llyfrau, straeon a rhigymau, pyped bys dwyochrog a thaflen gyda gwybodaeth am ymuno â'ch llyfrgell leol.

Mae’r pecyn Dechrau Da Babi a mae'r Pecyn Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar

Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar

Gwneir rhodd o becyn Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar fel rheol yn ystod archwiliad iechyd 27 mis eich plentyn. Mae'n cynnwys llyfr lluniau dwyieithog, llyfryn sy'n llawn syniadau ar gyfer rhannu llyfrau, straeon a rhigymau a thaflen gyda gwybodaeth am ymuno â'ch llyfrgell leol.

Os nad ydych chi wedi derbyn eich pecynnau Dechrau Da, yna cysylltwch â’ch ymwelydd iechyd.

Mae rhaglen Dechrau Da yng Nghymru’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Bag fy Mabi yng Nghymru

Rhigymau, fideos ac awgrymiadau llyfrau i'ch helpu i barhau i rannu straeon a rhigymau gyda'ch babi ar bob cam.

Bag fy Mabi yng Nghymru

Straeon, rhigymau, awgrymiadau a mwy...

Yn teimlo’n greadigol?

Pethau sy’n hwyl i’w gwneud

Lawrlwytho ein dalenni crefftau a lliwio dwyieithog.

Mae’n amser stori

Gwrando ar straeon Dechrau Da

Cwtsio â’ch plentyn a mwynhau gwrando ar stori gyda’ch gilydd yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

Rhannu rhigwm

Caneuon a rhigymau

Cael hwyl yn rhannu rhigymau â’ch plentyn. Cydganu â’r rhigymau sain neu lawrlwytho ein dalenni rhigymau.

Amser Gartref BookTrust Cymru

Dysgu rhagor

Chwilio am rywbeth hwyl i’w wneud fel teulu? Mae gennym straeon i’w mwynhau, rhigymau a chaneuon i’w rhannu a gemau a gweithgareddau hwyliog gan rai o awduron, darlunwyr a storïwyr gorau Cymru.

Eich llyfrgell leol

Amser Stori a Amser Rhigwm

Mae llawer o lyfrgelloedd yng Nghymru’n cynnal eu sesiynau Amser Stori ac Amser Rhigwm Dechrau Da eu hunain. Cael gwybod mwy am beth y mae’ch llyfrgell leol yn gallu ei gynnig i chi.

Darllen gyda’ch plentyn

Awgrymiadau a chyngor

Darllen ein hawgrymiadau defnyddiol ynglŷn â sut i fwynhau llyfrau â’ch plentyn, a gwneud yn fawr o’ch amseroedd stori â’ch gilydd.

Bag Fy Mynyddoedd Cynnar yng Nghymru

Fideos, gweithgareddau, awgrymiadau am lyfrau a mwy i’ch cefnogi i rannu straeon.

Bag Fy Mynyddoedd Cynnar yng Nghymru 

Mwy o BookTrust Cymru

BookTrust Cymru

Cael gwybod mwy am ein gwaith yng Nghymru.

Derbyn y wybodaeth a’r newyddion diweddaraf am raglenni ac ymgyrchoedd BookTrust Cymru yng Nghymru.

Cadw mewn cysylltiad trwy Twitter

Dilynwch @BookTrustCymru

Gweithio gyda meithrinfeydd ac ysgolion

Pori Drwy Stori

Cael gwybod mwy am ein rhaglen ddwyieithog gyffrous ar gyfer plant rhwng 3 a 5 oed.