1af o Fedi a Yr Enfys Unlliw

Daw David Lennon â dwbl y sbort gyda cherdd am y diwrnod cyntaf yn yr ysgol A chân wych am hel lliwiau!

David Lennon

Cael y geiriau yn Gymraeg

Cael y geiriau yn Saesneg

Am David

Mae David, sy'n wreiddiol o'r Barri, yn Gynorthwyydd Addysgu a Ffotograffydd gyda chariad am farddoniaeth a cherddoriaeth. Trwy weithio fel ffotograffydd ar brosiect celf ar draws ysgolion cynradd yn Llundain, sylweddolodd fod ganddo angerdd am weithio gyda phlant, a phenderfynodd ddilyn gyrfa mewn addysg. Yn ystod lockdown, penderfynodd fynd yn ôl at ei gariad o berfformio cerddoriaeth trwy ganu a gwneud caneuon ar fideo i ddifyrru ei ffrindiau. Yn ystod yr amser hwn, dechreuodd ysgrifennu barddoniaeth yn Gymraeg i ailgysylltu â'r iaith. Mae David bellach yn gweithio gyda phlant 4-5 oed ac yn mwynhau darllen straeon sy'n odli i'w ddosbarth. Y tu allan i'r gwaith, mae David yn hoff o feicio, cerddoriaeth jazz, canu yn y gegin, a mynd ar deithiau cerdded cŵn gyda cockapoo blewog o'r enw Tuli.

Mwy o hwyl Amser Rhigwm Mawr Cymru 2024

AmserGartref BookTrust Cymru

Chwilio am rywbeth hwyl i’w wneud fel teulu? Mae gennym straeon i’w mwynhau, rhigymau a chaneuon i’w rhannu a gemau a gweithgareddau hwyliog gan rai o awduron, darlunwyr a storïwyr gorau Cymru.

Dysgu rhagor