Tyrd Gyda Fi!
Mae'r gerdd ddwyieithog wych yn ddathliad o iaith, symud a natur. Ydych chi'n gallu symyd fel yr anifeiliaid yn y rhigwm?
Dyma’r Taflenni Rhigwm a Gweithgarwch yn Gymraeg
Dyma’r Taflenni Rhigwm a Gweithgarwch yn Saesneg
Am Krystal S. Lowe
Mae Krystal S. Lowe yn awdur, bardd ac awdur sgrin o Fermuda a leolir yng Nghymru, y mae’i gwaith yn archwilio themâu hunaniaeth croestoriadol, llesiant meddyliol, a grymuso. Drwy’i gyrfa helaeth fel dawnswraig a choreograffydd cafodd y pleser o blethu’i hysgrifennu gyda symud i gru gweithiau theatr dawns ar gyfer y llwyfan, llecynnau cyhoeddus, a ffilm.
Mae Krystal wedi ysgrifennu ffilmiau byrion gan gynnwys ‘Daughters of the Sea’ ar gyfer Ffilm Cymru, BBC Arts, BBC Cymru, a Chyngor Celfyddydau Cymru; ‘Somehow’ ar gyfer Music Theatre Wales; ‘Complexity of Skin’ ar gyfer Y Lle ar gyfer Culture in Quarantine y BBC; a ‘Seven’ ar gyfer Ffilm Cymru a Rhwydwaith BFI Cymru. Law yn llaw â’i gwaith ysgrifennu i sgrin, fe hunan-gyhoeddodd Krystal lyfr dwyieithog i blant ‘Whimsy’ sydd ar gael mewn llyfrgelloedd yng Nghymru a Bermuda. Mae hi wedi ysgrifennu erthyglau ar gyfer cydweithrediad Wales Arts Review â The Guardian, Animated Magazine People Dancing, ac wedi cyfranu at ‘Woman’s Wales?’ gan Parthian Books.
A hithau’n llawn ymroddedig i rannu llawenydd ysgrifennu gyda phobl ifanc, hwylusodd Krystal weithdai ysgrifennu creadigol ar gyfer Llenyddiaeth Cymru fel rhan o’u rhaglen Cymru Ni. Mae Krystal yn angerddol o blaid integreiddio mynediad, ac yn awyddus i ddatblygu’i hymarfer ysgrifennu dwyieithog. Eleni, cyfansoddodd ei drama ddwyieithog gyntaf, ‘Aderyn’, a gomisiynwyd gan Ŵyl Theatr Ymylol Calon Cymru yn Llanymddyfri, yr ŵyl gyntaf o’i bath.