Rhoddir nifer penodol o becynnau i Gydlynydd Dechrau Da pob awdurdod lleol, y gellir cysylltu â nhw drwy eich ymwelydd iechyd, clinig iechyd, lleoliad blynyddoedd cynnar neu lyfrgell leol.
Darparu Dechrau Da anghenion ychwanegol
Mae’r pecynnau hyn yn cael eu darparu er mwyn cefnogi teuluoedd, yn Lloegr, yn ychwanegol at unrhyw becynnau Dechrau Da eraill y gallen nhw dderbyn.

Pecynnau Dechrau Da Shine ar gyfer plant byddar
Pecynnau ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol
Dechrau Da Shine ar gyfer plant sy’n fyddar
Ceir dau becyn: Dechrau Da Shine Babi (0–2 flwydd oed) a Dechrau Da Shine Plant Bach (3–5 oed). Mae gan bob pecyn lyfr a chanllawiau ynghylch rhannu llyfrau gyda phlant byddar.

Pecynnau Dechrau Da Shine ar gyfer plant byddar
Adnoddau a chefnogaeth arall
- Dod o hyd i syniadau am lyfrau i’w rhannu yn ein Canfyddwr Llyfrau
- Darllen a chyd-arwyddo gyda fideos BSL yn ein hadran Ein Hargymhellion am Lyfrau. Fe welwch straeon gwych fel A Hole in the Bottom of the Sea, Oh, No George!, Everybunny Dance! ac Owl Babies, yn ogystal â llawer o dudalennau lliwio, a llyfrau stori a gemau fel Ar Lan y Môr.
- Ymweld â gwefan NCDS (Cymdeithas Genedlaethol Plant Byddar)
Dechrau Da Touch ar gyfer plant â nam ar eu golwg
Ceir dau becyn: Dechrau Da Touch Babi (0–2 flwydd oed) a Dechrau Da Touch Plant Bach (3–5 oed). Mae gan bob pecyn lyfr cyffwrdd-a-theimlo a chanllawiau ynghylch rhannu llyfrau gyda phlant â nam ar eu golwg.

Pecynnau Dechrau Da Touch ar gyfer plant â nam ar eu golwg.
Adnoddau a chefnogaeth arall
- Dod o hyd i syniadau am lyfrau i’w rhannu yn ein Canfyddwr Llyfrau
- Ymweld â gwefan RNIB (Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall)
- Ymweld â phrosiect Clearvision – llyfrgell fenthyca drwy’r post ar gyfer plant a phobl ifanc â nam ar eu golwg.
Dechrau Da Star ar gyfer plant â chyflyrau sy’n effeithio ar eu sgiliau echddygol manwl
Mae’r pecyn hwn ar gael i blant 3–5 oed ag anableddau sy’n effeithio ar neu’n oedi datblygiad eu sgiliau echddygol manwl. Mae pob pecyn yn cynnwys llyfr, pyped bys, a chanllaw ynghylch sut i ddefnyddio eich pyped bys a darllen gyda phlant.

Pecynnau Dechrau Da Star ar gyfer plant sy’n cael anawsterau gyda’u sgiliau echddygol manwl
Dywed yr arbenigwr ar anabledd Alex Strick fod ymgynghori â phlant yn allweddol er mwyn cynhyrchu llyfrau sy’n apelio at gynulleidfaoedd â nam ar eu golwg a rhai sy’n gweld, fel ei gilydd.
Nodwch os gwelwch yn dda y gall y llyfrau yn y pecynnau fod yn wahanol i’r rhai yn y lluniau.
Rhoi pecynnau anghenion ychwanegol Dechrau Da yn anrheg
-
Cyngor ac arweiniad ar rannu pecynnau anghenion ychwanegol, a sut y gall yr adnoddau teilwredig hyn gefnogi eich gwaith gyda phlant a theuluoedd.