Bydd Lucy Owen yn ymuno â BookTrust Cymru yn eu Cynhadledd Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar flynyddol
Published on: 3 Chwefror 2022
Bydd Lucy Owen, sy’n Awdures, yn Newyddiadurwraig ac yn Gyflwynwraig, yn hwyluso trafodaeth ar y pwnc Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Darllen er Pleser yn y Blynyddoedd Cynnar yng Nghynhadledd Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar BookTrust Cymru a fydd yn digwydd rhwng 21ain a 24ain Mawrth 2022.
Bydd Lucy Owen, sy’n Awdures, yn Newyddiadurwraig ac yn Gyflwynwraig, yn hwyluso trafodaeth ar y pwnc Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Darllen er Pleser yn y Blynyddoedd Cynnar yng Nghynhadledd Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar BookTrust Cymru a fydd yn digwydd rhwng 21ain a 24ain Mawrth 2022.
Bydd awduron a darlunwyr llyfrau plant, sefydliadau ac ymarferwyr blynyddoedd cynnar, yn ogystal â bobl flaenllaw a phwysig sy’n gweithio ym myd llyfrau plant yn ymuno â hi i edrych ar pam fod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn hollbwysig wrth ddarllen er pleser, ac ar yr hyn y gellir ei wneud yn y Blynyddoedd Cynnar i roi’r cyfle i blant ifanc deimlo’u bod wedi’u cynrychioli a’u grymuso.
Isod, mae Lucy yn dweud wrthon ni am ei hysbrydoliaeth, pam fod amrywiaeth, cynrychiolaeth a chynhwysiant mor bwysig mewn llyfrau plant a’r effaith bositif y mae hyn yn gallu ei chael.
“Fy swydd bob dydd yw bod yn newyddiadurwraig a chyflwynwraig i BBC Cymru. Rydw i wedi bod mewn sefyllfa ffodus iawn am y 25 mlynedd diwethaf, fwy neu lai, i fod ar sgriniau teledu pobl yng Nghymru, yn rhannu’r newyddion a straeon pobl.
Rydw i wedi caru llyfrau plant erioed a byddai fy nain arfer ysgrifennu straeon ar fy nghyfer am hwyl. Roeddwn i’n dwli arnyn nhw. Dim ond pan gefais i fy mab fy hun wnes i ddechrau gymryd pleser o geisio ysgrifennu barddoniaeth a straeon ar ei gyfer ef hefyd. Er hynny, dydw i dal ddim yn ystyried fy hun yn awdur ‘go iawn’. Rydw i wedi bod yn ffodus bod rhai cyhoeddwyr wedi bod yn fodlon mentro â mi.
Mae’r ysbrydoliaeth bob amser fel pe bai’n dod o naill ai fy mab neu harddwch y byd naturiol. Pan mae’r pethau rydw i’n eu gweld neu’n cael profiad ohonyn nhw’n fy nghyffroi, mae syniadau fel pe baen nhw’n neidio i mewn i fy mhen. Roeddwn i wedi bod yn snorcelu ar fy ngwyliau ac wedi gweld bywyd môr rhyfeddol, pysgod a chwrel syfrdanol. Daeth stori Sea House i’m meddwl.
Mae gan goed yn eu blodau ryw hud unigryw i mi hefyd. Pan ddaw’r gwanwyn â bywyd newydd mewn ffordd mor ysblennydd, mae’n anodd iddo beidio â gwneud argraff. Stori am Cherry, plentyn sydd wedi’i chreu o betalau coeden ceirios ac sy’n gorfod ennill ei lle yn y byd, ydy Flower Girl. I gael Gabriel, roedd angen i ni fynd trwy IVF. Fe gyrhaeddodd yn y gwanwyn ac mae hi wastad wedi teimlo fel pe bai yntau hefyd yn rhodd hudol.
Roedd Cherry yn wahanol i blant eraill, ac mae a wnelo’r stori â derbyn gwahaniaethau yn eich hunan ac mewn eraill. Mae gan Ruth, un o’r cymeriadau yn Flower Girl, barlys yr ymennydd sy’n amharu ar ei gallu i gerdded. Bûm yn gweithio gyda Cerebral Palsy Cymru i wneud yn siŵr ei bod yn cael ei phortreadu’n gywir yn y stori. Mae Ruth yn gryf, yn graff ac yn benderfynol a dydy hi ddim yn gadael i’w chyflwr ei dal yn ôl o gwbl.
Roedd hi’n bwysig i mi fy mod i’n cynnwys cymeriad ag anabledd yn y llyfr, ond heb i’r anabledd hwnnw fod yn ffocws y cymeriad. Rydw i’n gobeithio y bydd darllenwyr yn cofio Ruth am ei chraffter, ei sensitifrwydd a’i charedigrwydd.
I mi, dylai amrywiaeth fod yn rhan o lyfrau plant nawr, i adlewyrchu pob agwedd ar y byd o’u cwmpas. Rydw i’n meddwl bod plant yn disgwyl cynrychiolaeth, ac mae angen i ni ddarparu hyn iddyn nhw. Pe bai llyfrau a hefyd straeon sy’n cynnwys amrywiaeth ar gael i blant o oedran ifanc iawn, dychmygwch sut y byddai hynny’n eu helpu i dyfu ag empathi a dealltwriaeth.
Trwy Flower Girl, mae dwy elusen wedi dod at ei gilydd i greu rhywbeth aruthrol. Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, sy’n rhedeg ymgyrch Gwledd y Gwanwyn bob blwyddyn, nawr yn gwneud rhodd o goed a phlanhigion yn eu blodau i’r ganolfan therapi Parlys yr Ymennydd yng Nghaerdydd a bydd 350 o deuluoedd sy’n defnyddio’r ganolfan yn derbyn tocynnau am ddim i gael mynediad i unrhyw safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru. Cododd y cydweithrediad hwn fy nghalon i’r awyr, fel petalau blodau wedi’u dal yn yr awel, sy’n dangos yr effaith go iawn y mae amrywiaeth mewn llyfrau plant yn gallu ei chael.”
I gael gwybod mwy am lyfrau Lucy, gallwch chi fynd i’w gwefan yma.
I gofrestru i fynychu neu i gael rhagor o fanylion am Gynhadledd Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar BookTrust Cymru a thema Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Darllen er Pleser yn y Blynyddoedd Cynnar, gwelwch yma.