The Raven Heir: sut yr helpodd anialdiroedd Cymru ganfod lle’r awdur Stephanie Burgis n y byd
Published on: 5 Awst 2021 Author: Stephanie Burgis
Cafodd yr awdur Stephanie Burgis ysbrydoliaeth ar gyfer ei llyfr, The Raven Heir, mewn lle sy’n gyforiog o hud a hanes – coedwigoedd a dyffrynnoedd hardd Cymru.
Yr awdur Stephanie Burgis a chlawr The Raven Heir
Darganfod lle i berthyn
Dwi wedi byw mewn sawl lle gwahanol yn ystod fy mywyd, ond dim ond ar ôl symud i Gymru yn 2009 y teimlais o’r diwedd mai yma ro’n innau i fod, ac y gallwn fwrw gwreiddiau am byth. Felly, does ryfedd fod y dirwedd hudol o rymus a deniadol yn fy llyfr newydd, The Raven Heir, wedi cael ei ysbrydoli’n uniongyrchol gan fynyddoedd, coedwigoedd a chestyll hardd a hudol y wlad fu’n gartref i mi ers 12 mlynedd – yn ogystal â’r hanes diddorol o’u cwmpas.
Alla i ddim cyfri sawl tro dwi wedi ymweld â Chastell Rhaglan gyda fy mhlant ar hyd y blynyddoedd, ond mae fy nghariad at y lle wedi cynyddu bob tro. Pan ddysgais am ei gysylltiad â Rhyfeloedd y Rhosynnau, yn sydyn roedd y cyfnod hwnnw yn hanes yn teimlo’n fwy presennol a real i mi nag erioed o’r blaen. Pan oedd Harri Tudur (y breini Harri VII i ddod) yn blentyn, cafodd ei ddal yno fel gward / carcharor, am ei fod yn cael ei ystyried yn beryglus i’r orsedd am ei fod yn etifedd amgen a allai’i hawlio oherwydd ei linach. Wrth i mi ddarllen am ddicter ac ofn ei fam, a frwydrodd am flynyddoedd i gael ail-gwrdd â’i mab annwyl, dychmygais sut y byddwn i wedi teimlo yn yr un sefyllfa… a pha wahaniaeth y gallai swyn go iawn fod wedi gwneud i’w stori.
Y mynyddoedd ger Rhaeadr
Adeiladu teyrnas hud
Yn The Raven Heir, mae mam fy arwres yn ddewines sy’n berchen ar hud a lledrith nerthol, felly mae’n dianc i goedwig hud i warchod ei phlant rhag y rhyfeloedd ffyrnig sy’n cael eu hymladd dros yr orsedd yn eu teyrnas nhw, Corvenne… teyrnas â thirwedd sy’n digwydd bod yn hynod debyg i dirwedd Cymru.
Wrth gwrs, pan oedd angen ysbrydoliaeth am goedwigoedd a fforestydd hud, doedd dim angen edrych yn bell! Mae ein teulu’n ymweld â’n coedwig leol, Coed Cefn, bob cyfle gawn ni. Mae fy mhlant wedi ymladd yn erbyn corachod hud a chreaduriaid dychmygol eraill yno sawl gwaith. Roedd hi’n rhy hawdd dychmygu lleoliad tebyg ar gyfer fy arwres a’i thripledi – lleoliad a fyddai’n plethu hudoliaeth go iawn drwy’r awyr ochr yn ochr ag awyrgylch hyfryd o swynol ein coedwig go iawn yng Nghymru.
Coedwigoedd Coed Cefn
Am fy mod i’n byw mewn cwm, roedd hi’n benderfyniad greddfol gosod hudoliaeth ddyfnaf eu teyrnas ddychmygol o gwmpas mynydd. Wedi’r cyfan, dwi wedi byw ynghanol y mynyddoedd ers deuddeng mlynedd bellach! Mae’u cryfder a’u parhad wedi bod yn gysur mawr ar adegau heriol, ac mae’r niwloedd sy’n glynu wrth eu llethrau wedi sibrwd hudoliaeth wrthyf i a’m plant bob dydd, wrth i ni ddychmygu dreigiau’n hedfan drwy’r niwl, neu’n llechu y tu ôl iddo.
Yn The Raven Heir, mae’n rhaid i fy arwres fynd ar daith ar draws tir hardd, hudol a pheryglus gyda’i thripledi, i achub, gyda’i gilydd, eu teulu, trwsio coron sydd wedi torri, a darganfod eu gwir le yn y byd.
Yn fy mywyd i, dwi wedi bod yn ddigon ffodus i ddod o hyd i fy lle fy hun yma – a gobeithio y gallwch ddarllen am fy nghariad amdano ymhob llinell o’r llyfr hwn.
Stephanie Burgis: The Raven Heir
Ysbrydolwyd gan Gymru!