Darllen gyda’ch plentyn

Mae’n hwyl rhannu llyfr â’ch plentyn! Mae’n amser i ddod yn agos, i chwerthin ac i siarad â’ch gilydd – ac mae hefyd yn gallu rhoi dechrau gwych mewn bywyd i blant, a’u helpu nhw i ddod yn ddarllenwyr gydol oes.

Os nad ydych chi’n teimlo’n hyderus ynglŷn â darllen yn uchel neu rannu llyfrau, peidiwch â phoeni – does yr un ffordd gywir neu anghywir o fwynhau stori gyda’ch gilydd. Ond os hoffech chi gael rhai awgrymiadau, dyma ichi ambell air i gall i’ch helpu.

Dydy hi byth yn rhy gynnar i ddechrau

Dydy hi byth yn rhy gynnar i ddechrau rhannu llyfrau â nhw – efallai na fyddan nhw’n deall y geiriau, ond fe fyddan nhw wrth eu boddau’n cwtsio, yn clywed eich llais ac yn edrych ar y lluniau.

  • Siarad â’ch bwmp. Mae’ch baban yn gallu clywed synau mor gynnar â 18 wythnos ac mae siarad yn rheolaidd â’ch bwmp yn ei helpu i adnabod eich llais a chael cysur o wrando arnoch chi hyd yn oed cyn iddo/iddi gael ei (g)eni.
  • Rhoi cynnig ar lyfrau du a gwyn pan maen nhw’n fach. Efallai y byddwch chi’n derbyn llyfryn Dechrau Da Siapiau Cyntaf Eich Babi, sy’n cynnwys delweddau du a gwyn ichi eu rhannu. Mae’r rhain yn berffaith yn y dyddiau cynnar pan fo’u llygaid dal yn datblygu.
  • Yng Nghymru a Lloegr, gofynnwch i’ch ymwelydd iechyd neu’r llyfrgell ynglŷn â lle y gallwch chi gael gafael ar eich pecyn Dechrau Da Babi rhad ac am ddim. Mae’n cynnwys llyfrau, awgrymiadau a chyngor i’ch helpu chi i roi cychwyn ar bethau. Mae plant yng Nghymru fel rheol yn derbyn eu pecyn Dechrau Da Babi yn ystod ymweliad eu Hymwelydd Iechyd pan maen nhw’n 6 mis oed.
  • Ymuno â’ch llyfrgell leol. Mae llyfrgelloedd yn llawn cyngor ac argymhellion gwych, ac fe fydd gennych chi gyflenwad newydd o lyfrau i’w mwynhau. Mae’n bosibl y bydd eich llyfrgell hefyd yn gwesteio sesiynau Amser Rhigwm a sesiynau eraill ar gyfer y plantos – fe fyddwch chi’n gallu cael hwyl a chyfarfod â theuluoedd eraill, hefyd.
  • Cael aelodau eraill o’r teulu i chwarae rhan. Mae amser stori’n rhywbeth y mae pawb yn gallu ei fwynhau, ac mae’n ffordd wych i feithrin perthynas arbennig. Er enghraifft, mae yna lawer o lyfrau am y berthynas rhwng teidiau a neiniau a’u hwyrion a’u hwyresau – efallai y byddai’ch un bach chi’n mwynhau rhannu un o’r straeon hynny â’i nain neu daid ei hun.

Wrth i’ch plentyn ddod ychydig yn hŷn

Mae rhannu llyfrau lluniau’n gallu bod yn hwyl fawr – ond peidiwch â phoeni os ydy sylw’ch plentyn yn crwydro, os yw’n cnoi’r llyfr neu os yw’n mynd i ffwrdd i rywle arall – mae hynny’n hollol normal. Peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi lawer o amser yn eich diwrnod prysur – mae rhyw ychydig o funudau’n gwneud gwahaniaeth anferthol.

Dyma rai awgrymiadau eraill i’ch helpu chi i fwynhau amser stori gyda’ch gilydd:

  • Gofyn i’ch plentyn ddewis beth y byddai’n hoffi ei ddarllen. Bydd y stori’n fwy diddorol iddyn nhw os ydyn nhw wedi’i dewis eu hunain. (A pheidiwch â phoeni os y byddan nhw’n mynd yn ôl at yr un stori drosodd a throsodd, ychwaith!)
  • Os y gallwch chi, diffoddwch y teledu, y radio a’r cyfrifiadur. Mae’n haws i’r ddau ohonoch chi fwynhau’r stori heb unrhyw beth arall i dynnu sylw.
  • Eistedd yn agos at eich gilydd. Fe allech chi annog eich plentyn i ddal y llyfr ei hun a throi’r tudalennau, hefyd.
  • Edrych ar y lluniau. Gallwch chi wneud mwy na dim ond darllen y geiriau ar y dudalen. Efallai fod yna rywbeth doniol yn y lluniau y gallwch chi bwffian chwerthin amdano gyda’ch gilydd, neu efallai fod eich plentyn yn mwynhau dyfalu beth fydd yn digwydd nesaf.
  • Gofyn cwestiynau a siarad am y llyfr. Mae llyfrau lluniau’n gallu bod yn ffordd wych i drafod ofnau a phryderon eich plant, neu i’w helpu i ddelio â’u hemosiynau. Rhowch gyfle iddyn nhw siarad, a holwch nhw ynglŷn â sut y maen nhw’n teimlo am y sefyllfaoedd yn y stori.
  • Cael hwyl! Does yr un ffordd gywir neu anghywir o rannu stori – cyn belled â’ch bod chi a’ch plentyn yn cael hwyl. Peidiwch â bod ofn actio sefyllfaoedd neu ddefnyddio lleisiau doniol... bydd eich plantos wrth eu boddau!

Annog cariad at ddarllen

Wrth i blant fynd yn hŷn, gyda llawer o weithgareddau eraill yn cystadlu am eu hamser, sut allwch chi eu hannog nhw i wneud amser i ddarllen?

Dyma rai o’n syniadau ni:

  • Darllen eich hun! Dim ots beth rydych chi’n ei ddarllen – papur newydd neu gylchgrawn, edrych trwy lyfr coginio, darllen llawlyfr cyfrifiadur, mwynhau barddoniaeth neu golli’ch hun mewn stori ramant neu nofel dditectif. A chael eich plant i ymuno â phethau – os ydych chi’n coginio, tybed allen nhw ddarllen y rysáit? Os ydych chi’n gwylio’r teledu, tybed allan nhw ddarllen y rhestriadau?
  • Rhoi llyfrau fel anrhegion. Ac annog eich plant a’u ffrindiau i gyfnewid llyfrau â’i gilydd – bydd hyn yn rhoi cyfle iddyn nhw ddarllen straeon newydd, a’u cael nhw i gyd yn siarad am y pethau y maen nhw’n eu darllen.
  • Mynd i’r llyfrgell leol gyda’ch gilydd. Mae hi wastad yn hwyl dewis llyfrau newydd i’w darllen, a chadwch lygad yn agored am ddigwyddiadau awduron arbennig yn y llyfrgell neu siopau llyfrau lleol - mae plant wrth eu boddau’n cael cyfarfod â’u hoff awduron. Mae Jacqueline Wilson ac Anthony Horowitz bob amser â chiwiau am lofnod sy’n filltiroedd o hyd!
  • Annog plant i gario llyfr gyda nhw trwy’r amser. Fel hynny, byddan nhw byth wedi diflasu (mae hyn yn rhywbeth y gallwch chithau ei wneud hefyd!)
  • Cael silff lyfrau i’r teulu. Os yn bosibl, fe allech chi hefyd gael silffoedd llyfrau yn ystafelloedd gwely’ch plant.
  • Dal ati i ddarllen gyda’ch gilydd. Efallai fod y plant yn hŷn, ond dydy hynny ddim yn golygu bod yn rhaid ichi roi’r gorau i rannu straeon – efallai y gallech chi roi cynnig ar gyfres Harry Potter neu A Series of Unfortunate Events.
  • Peidiwch â chynhyrfu os ydy’ch plentyn yn darllen yr un llyfr drosodd a throsodd. Y gwir ydy ein bod ni i gyd wedi gwneud hyn!

Efallai yr hoffech chi hefyd

Darllen gyda’ch plentyn: 0-12 mis

Lawrlwytho’r llyfryn

Mae babanod wrth eu boddau’n edrych ar luniau ac yn clywed eich llais wrth ichi ddarllen iddyn nhw. Beth am gael golwg ar ein canllaw hyfryd i rannu llyfrau â phlant 0-12 mis oed, sydd ar gael mewn 22 o ieithoedd?

Darllen gyda’ch plentyn: 18-36 mis

Lawrlwytho’r llyfryn

Mae darllen gyda’ch plentyn o oedran cynnar yn helpu i roi’r dechrau gorau posibl iddyn nhw mewn bywyd – mae hefyd yn hwyl fawr! Mae’r llyfryn hwn yn llawn o’n hoff awgrymiadau ar gyfer rhannu llyfrau gyda’ch rhai bach.

Llyfrynnau Darllen gyda’ch plentyn 4-6 oed

Lawrlwytho’ch llyfryn

Mae rhannu llyfrau a straeon yn gallu helpu plant i ddeall y byd o’u cwmpas ac i ddatblygu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol allweddol. Mae’r llyfryn defnyddiol ar gael i’w lawrlwytho mewn 28 o ieithoedd.

Bookshine a Booktouch ar gyfer anghenion ychwanegol

Lawrlwytho’r llyfryn

Gwelwch ein canllawiau i fwynhau llyfrau a darllen gyda phlant byddar, dall neu rannol ddall. Ddim ar gael mewn fformat Cymraeg ar hyn o bryd. Sylwch mai yn Lloegr yn unig y mae pecynnau Bookshine a Booktouch ar gael.