Garddwr Y Gwyll / The Night Gardener (bilingual)

Publisher: Rily

Mae William yn edrych drwy ei ffenest mewn cartref plant amddifad ar Grimloch Lane un diwrnod a dyma fe’n gweld rhyw gythrwfl y tu allan. Pan mae’n mynd i lawr i’r stryd, mae amgylchedd sepia’r dref wedi’i drawsnewid gan dylluan docwaith, a gerfiwyd gan rywun dirgel.

Cyn hir, mae’r coed yn troi’n anifeiliaid lle bynnag yr aiff William – cathod, cwningod, a draig hyd yn oed, ac mae stryd ddiflas Grimloch Lane yn trawsnewid i fod yn lle hudolus.

Wedyn, un nos, mae William yn dod o hyd i Arddwr y Gwyll, sy’n dysgu iddo sut i wneud Grimloch Lane yn hardd am byth.

Dyma stori dwymgalon wedi’i darlunio’n hardd am dref drist a phlentyn amddifad unig wrth i’r naill a’r llall gael bywyd newydd o ganlyniad i garedigrwydd a sgiliau Garddwr y Gwyll. Prin yw’r testun, gan adael effaith.


 

More books like this

Ffion a’r Tim Rygbi

Author: Elin Meek Illustrator: Chris Glynn

Ffion yw ' r ferch gyntaf i chwarae i dîm rygbi ei hysgol. A all hi ddwyn perswâd ar ei holl amheuwyr?

Ffion is the first girl to play for her school’s rugby team. Can she win over all the doubters?

Read more about Ffion a’r Tim Rygbi

Share this book with your friends

Use our Bookfinder to discover the perfect children's books for every age...