book cover
English Cymraeg

One Home: Eighteen stories of hope from young activists

by Hiba Noor Khan, illustrated by Rachael Dean

Interest age: 9 to 11
Reading age: 9+

Published by Macmillan Children’s Books, 2023

  • Non-fiction

About this book

Galwad angerddol i weithredu i achub ein planed ydy hwn. Mae deunaw o ymgyrchwyr ifanc o ledled y byd, llawer ohonyn nhw o gymunedau brodorol, wedi gwneud gwahaniaeth diamheuol. Mae gan stori pob person ifanc ffeithiau am eu planhigion a’u hanifeiliaid lleol, ac yna ‘her’. Mae’r rhain yn gyraeddadwy ac yn eco-gyfeillgar, fel creu porthwyr adar, tyfu llysiau mewn potiau a phrynu oddi wrth gwmnïau Masnach Deg.

Mae’r llyfr fformat mawr hwn wedi’i ddarlunio mewn lliw, ac mae’n dangos holl fioamrywiaeth y byd. Mae’n anodd bod yn optimistig wrth drafod newid hinsawdd, ac mae yna ffeithiau caled wedi’u cynnwys, ond mae’r neges bod un person yn gallu gwneud gwahaniaeth yn ysbrydoli.

Share this page Twitter Facebook LinkedIn