English Cymraeg

Magic Faces Heroes of the Pirate Ship

gan Esi Merleh, darluniau gan Abeeha Tariq

Oedran diddordeb: 4 i 5
Oedran darllen: 5+

Cyhoeddwr Uclan Publishing, 2023

  • Adventure
  • Chapter books

Am y llyfr hwn

Pan mae'r efeilliaid Austin ac Alanna yn darganfod set baentio wynebau yn nhŷ eu modryb, mae eu hanturiaethau'n dechrau. Gyda'u ci Ozzy maen nhw'n cyrraedd yn sydyn ar long môr-ladron! Yn ffodus, mae'r môr-ladron ar y New Leaf yn gyfeillgar. Ond pan ddaw dau fôr-leidr newydd i fusnesa o gwmpas, mae Austin ac Alanna'n amheus. Fedran nhw helpu'u mêts ar y llong cyn i'w hamser yn y byd hwn ddod i ben?

Dyma'r cyntaf mewn cyfres newydd hyfryd. Gyda darluniau cyfeillgar mewn lliw ar bob tudalen ddwbl a phenodau byr, mae hwn yn ddewis da i ddarllenwyr sydd newydd ddechrau magu hyder wrth ddarllen ac sy'n edrych am antur ysgafn.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn