book cover
English Cymraeg

Cyfrinach Betsan Morgan

by Gwenno Hywyn

Interest age: 10 to 11

Published by Lolfa, 2023

About this book

Argraffiad newydd yw hwn o lyfr gafodd ei gyhoeddi yn wreiddiol yn yr wythdegau ac mae’r stori yr un mor afaelgar heddiw ag yr oedd bryd hynny. Heb ei ffrind gorau, mae unrhyw gyffro roedd Betsan Morgan yn teimlo am fynd ar daith breswyl i Blas-yr-Hydd wedi diflannu, ond mae ei rhieni yn mynnu bod yn rhaid iddi fynd. Cyn iddi adael, mae Mam yn rhoi mwclis arbennig iddi o’i hen, hen, hen Nain oedd, yn ôl y sôn, yn byw yn yr hen blasty. Mewn tro annisgwyl, ar ôl cyrraedd mae Betsan yn darganfod ei bod hi’n gallu teithio yn ôl mewn amser ac yn sydyn mae’r daith ysgol ddiflas yn troi’n antur gyffrous.

Dyma lyfr a fydd yn tanio diddordeb ar draws y cwricwlwm ond yn enwedig ym meysydd:

Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Celfyddydau Mynegiannol

Share this page Twitter Facebook LinkedIn