book cover
English Cymraeg

Criw’r Coed a’r Draenogod

by Carys Glyn

Interest age: 6 to 7

Published by Lolfa, 2023

About this book

Dyma’r ail yng nghyfres Criw’r Coed. Y tro hwn mae anifeiliaid hynaf y byd yn ôl i ddatrys dirgelwch y draenogod coll. Pan mae Dyfrig Draenog yn ymweld â’r criw i ofyn am help i ddod o hyd i’w ffrindiau mae’r criw yn gwybod yn union beth i’w wneud. Mae pob un yn galw ar eu pwerau unigryw i annog plant Cymru i adeiladu ‘Priffordd Bigog’ ar draws Cymru, a fydd yn golygu y gall draenogod deithio o le i le yn ddiogel unwaith yn rhagor. Bwriad y gyfres yw gwneud i blant sylweddoli eu bod nhw’n gallu gwneud gwahaniaeth drwy helpu’r anifeiliaid yn eu milltir sgwâr nhw.

Dyma destun a fydd yn tanio diddordeb ar draws y cwricwlwm ond yn enwedig ym meysydd:

Ieithoedd, Llythrennedd  a Chyfathrebu, Iechyd a Lles, Celfyddydau Mynegiannol, Y Dyniaethau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Share this page Twitter Facebook LinkedIn