Camau Corsiog
gan Meilyr Siôn, darluniau gan James Cottell
Oedran diddordeb: 8 i 9
Oedran darllen: 8+
Cyhoeddwr Atebol Cyfyngedig, 2022
Am y llyfr hwn
Dyma lyfr fydd yn apelio at blant sydd yn darllen llyfrau pennod am y tro cyntaf - yn enwedig y rhai sydd yn hoffi byd natur!
Mae rhagair gan Iolo Williams a map apelgar o fewn y tudalennau cyntaf yn hoelio diddordeb yn syth. Mae'r llyfr yn gyfres o straeon byrion wedi'u lleoli o gwmpas 'Y Gors'. Mae pob stori yn cyflwyno'r darllenydd i gymeriadau newydd o fyd natur. Rydyn ni'n dilyn eu helyntion wrth iddyn nhw ddysgu gwersi bywyd wrth fynd ati i gyd-fyw yn y Gors.
Mae'n llawn geirfa gyfoethog o fyd natur, ac yn ogystal â hynny, mae neges ym mhob un o'r straeon a fydd yn taro deuddeg gyda'r darllenwyr ifanc.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Too Small Tola Makes It Count
5 i 9 years
-
Sheep School
5 i 9 years
-
Budgie
5 i 9 years
-
Joyful Joyful
11 i 14 years