
About this book
Yn Saesneg mae cŵn yn dweud 'woof', ond yn Ffrangeg, mae cŵn yn dweud 'ouaf ouaf', yn Almaeneg maen nhw'n dweud 'wau wau' ac yn Siapaneg maen nhw'n dweud 'wan-wan'.
Yn y llyfr cyfareddol hwn, mae un ci yn mynnu mai'r ffordd gywir i ddweud woof ydy dweud 'bork'. Mae'n daer am berswadio'r cast rhyngwladol o gŵn, ond mae'n dasg anodd iawn nes bod cath yn cyrraedd ac mae'r cŵn yn uno i gyfarth bork arni.
Yn ogystal â thynnu sylw at synau gwahanol diddorol cŵn o ledled y byd, y bydd y plant bach wrth eu boddau yn eu dynwared, y neges yn gyffredinol yma ydy bod mwy yn ein huno nag sy'n ein gwahanu. Hyfryd!
More books like this
-
Pwy sy'n Cuddio ar y Ffermm
0 to 4 years
-
-
Fi Ac Aaron Ramsey
6 to 12 years
-
Enwogion o Fri: Billy - Bywyd Pwerus Billy Boston
6 to 9 years