book cover
English Cymraeg

Dafad yw Blodwen / Blodwen is a Sheep

by Morag Hood
Adapted by Elin Meek

Interest age: 4 to 5
Reading age: 6+

Published by Dref Wen, 2023

  • Funny
  • Picture books

This book is also available in English

About this book

Dafad yw Blodwen – o leiaf, dyna mae’r defaid go iawn yn y stori hon yn ei feddwl. Gŵyr y darllenydd craff fod Blodwen, mewn gwirionedd, yn flaidd llwyd sy’n gwisgo siwmper wlanog, oren. Mae’r llyfr stori a llun ffraeth a hudol hwn yn rhoi gwedd newydd ar adnod y blaidd yng ngwisg dafad.

Mae Blodwen yn boblogaidd gan y praidd. Mae hi’n dal, mae ganddi ddannedd miniog, main, ac mae hi wedi dysgu llawer o gemau newydd iddyn nhw, gan gynnwys tag – sef dull Blodwen, heb yn wybod i’r defaid, o geisio (a methu) â’u dal ar gyfer bwriadau mwy sinistr. Mae Blodwen wrthi’n brysur yn gweithio ar rysáit ei saws mintys arbennig. Mae angen rhywbeth arni i’w fwyta gyda’r saws, ac mae’n gwybod yn union beth. Er mwyn ei gael, mae’n dweud wrth y defaid am fynd i gysgu’n gynnar a pharatoi ar gyfer syrpreis blasus yn y bore. Ond mae tro yng nghynffon stori’r blaidd, ac yn y pen draw, Blodwen fydd yn cael y syrpreis….

Dyma stori glyfar am gam-adnabod, sy’n llawn o hiwmor anarferol a darluniau llawn steil â phalet cyfyng o liwiau. Dim ond cael eu hawgrymu y mae bwriadau sinistr Blodwen, sy’n ychwanegu at yr elfen o fod ar bigau’r drain, ac mae gan y tro yng nghynffon y llyfr neges bwysig am dderbyn eraill, waeth beth fo’u gwahaniaethau.

Share this page Twitter Facebook LinkedIn