book cover
English Cymraeg

5 Funny Animals

by Adam and Charlotte Guillain, illustrated by Tom Knight

Interest age: 4 to 5

Published by Ladybird, 2023

  • Interactive
  • Picture books
  • Poetry and rhyme

About this book

Mae gan y llyfr cyfareddol hwn bump o anifeiliaid ar bob tudalen ddwbl, ond mae rhai yn gwneud pethau gwahanol. Os oes yna bedair arth yn bwyta mêl ac un arth yn darllen, faint o eirth sydd yna i gyd? Mae'r cwestiynau cynnil hyn, sydd wedi'u hysgrifennu mewn cwpledi odledig, yn golygu bod y plentyn yn ymarfer cyfrif ac yn cael ei gyflwyno i gysyniadau adio, tynnu a bondiau rhif ar gyfer 5, er nad ydy'r cysyniadau hynny'n cael eu henwi.

Mae egni'r anifeiliaid yn fyrlymus – mae yna frogaod yn bownsio, geifr yn hwylio a chathod yn canu! Mae'r darluniau hyfryd yn rhoi rhyw deimlad cyfeillgar i'r testun bywiog, ac mae'r llyfr i gyd yn wych o ryngweithiol.

Share this page Twitter Facebook LinkedIn