-
Using fiction to smash stereotypes 21/03/25
-
11 brilliant rewilding books 20/03/25
Dewi Yn Mynd I’r Parc / Zeki Goes To The Park (bilingual)
Publisher: Atebol
Mae hi'n ddiwrnod heulog felly mae Dewi a Mam ar y ffordd i'r parc i gwrdd â Li a'i mam i chwarae. Yn y parc, mae Dewi a Li'n marchogaeth ar geffylau chwarae, yn sblasio yn y dŵr hyfryd ac yn cael hwyl yn y tywod – ac mae cinio picnic blasus yn y cysgod hefyd. Am ddiwrnod perffaith!
Yn yr antur newydd hwn i Dewi, y canolbwynt yw diwrnod hapus yn y parc gyda Mam, gan adlewyrchu pleserau syml beunyddiol y gall plant bach uniaethu â nhw. Mae'r stori'n un syml a phleserus, perffaith i'w darllen a'i mwynhau gyda phlant 1-2 oed, gyda darluniau clir, lliwgar, ac iaith gyfeillgar, syml.
Mae holl lyfrau stori a llun cyfres Dewi'n dangos gweithgareddau beunyddiol plentyn bach du a'i deulu, wedi'u darlunio'n hardd gan Ruth Hearson. Yn Dewi yn Mynd i'r Parc / Zeki Goes to the Park, mae'n hyfryd gweld teulu amrywiol arall yn cael ei gynrychioli hefyd, yn enwedig mewn llyfr a anelir at y blynyddoedd cynnar ble mae'r gynrychiolaeth hon yn dal i fod yn brin.
It's a sunny day, so Zeki and Mummy are off to the park for a play date with Yu and her mummy. When they get to the park, Zeki and Yu ride play horses, splash in the cooling water and cavort in the sandpit – and there's also a delicious picnic lunch in the shade. What a perfect day!
In this new adventure for Zeki, it's a happy day in the park with Mummy that is the focus, reflecting the relatable and simple pleasures of everyday life for toddlers. The story is a simple and enjoyable one, perfect for reading and enjoying with 1–2-year-olds, with clear, colourful illustrations and friendly, simple language.
All the picture books in the Zeki range depict the daily activities of a black toddler and his family, beautifully illustrated by Ruth Hearson. In Dewi yn Mynd i'r Parc / Zeki Goes to the Park, it's lovely to see another diverse family represented, too, especially in a book aimed at the early years where this representation is still lacking.
-
Bookstart Toddler Wales / Dechrau Da i Blant Bach Cymru
Yma gallwch ddysgu mwy am y llyfrau gwych ym mhecyn Dechrau Da i Blant Bach Cymru.
Here, you can find out more about the brilliant books in the Bookstart Toddler Wales pack.
-
Llyfrau pecynnau Adrodd Straeon Dechrau Da – Cymru / Bookstart Storyteller pack books - Wales
Darganfyddwch fwy am y llyfrau yn y pecyn Adrodd Straeon ar gyfer partneriaid.
Discover more about the books in the Storyteller pack for partners.