Weithiau Dwi’n Teimlo’n Heulog / Sometimes I Feel Sunny (bilingual)
Publisher: Dref Wen
Gall pedwar ffrind deimlo unrhyw beth – o deimlo’n heulog i deimlo’n hwyliog, o deimlo fel brenin i deimlo dim. Mae pob diwrnod yn dechrau wrth i’r haul godi a daw teimlad, a dilynwn y ffrindiau drwy lawer o wahanol emosiynau hyd nes i’r haul fachlud. Ac wedyn mae ambell deimlad cysglyd a hyfryd amser gwely hyd yn oed.
Bydd y plant yn mwynhau’r penillion annwyl a’r darluniau bywiog wrth i’r ffrindiau ddod â’r holl emosiynau’n fyw. Dyma lyfr gonest a hyfryd – ffordd wych i ddangos bod gan bawb emosiynau cryf weithiau.
Four friends can feel anything – from feeling sunny to feeling funny, from feeling like a king to not feeling anything. Every day begins with the sun rising and a feeling, and we follow the friends through lots of the different emotions until the sun sets. And then there’s even a couple of sleepy and lovely feelings at bedtime.
Children will enjoy the adorable rhyme scheme and the vibrant illustrations as the friends bring all the emotions to life. This is an honest and lovable book – fantastic for showing that everyone has strong emotions sometimes.
-
Llyfrau Gwych i Blant Bach yn Gymraeg a Saesneg / Great Books for Toddlers in Welsh and English
Ydych chi’n chwilio am lyfrau i’w darllen i’ch plentyn bach yn Gymraeg neu’n Saesneg?
Are you looking for books to read to your toddler in Welsh or English?
-
Our favourite Letterbox Club Wales books / Ein hoff lyfrau Clwb Blwch Llythyrau Cymru
Dros y 10 mlynedd diwethaf mae Clwb Blwch Llythyrau wedi anfon parseli at dros 10,000 o blant sy’n derbyn gofal yng Nghymru. Dyma rai o'n hoff lyfrau a ddewiswyd yn arbennig i gael eu cynnwys yn Letterbox Club yng Nghymru.
Over the last 10 years Letterbox Club has sent parcels to over 10,000 children who are in care in Wales. These are some of our favourite …