Cydlynydd BookTrust Cymru
BookTrust
BookTrust yw elusen ddarllen plant fwyaf y DU. Rydym wedi ymrwymo i gael plant i ddarllen. Bob blwyddyn rydym yn cyrraedd miliynau o blant ledled y DU gyda llyfrau, adnoddau a chymorth i helpu i ddatblygu cariad at ddarllen.
Pwrpas y swydd
Darparu cymorth lefel cydgysylltu i waith BookTrust yng Nghymru gyda ffocws penodol ar gyflawni ein rhaglenni Pori Drwy Stori ac Y Clwb Blwch Llythyrau. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys ysgolion ac awdurdodau lleol, a chyda chydweithwyr ar draws BookTrust.
Lleoliad: Caerdydd (gyda gwaith swyddfa ar ddau ddiwrnod penodol yr wythnos, gweddill yr wythnos dewis swyddfa neu weithio o bell).
Mae hon yn swydd amser llawn, 1 flwyddyn, cyfnod penodol yn cyflenwi dros absenoldeb mamolaeth.
Bydd deiliad y swydd hon yn adrodd i’r: Rheolwr Rhaglen ac Ymgysylltu ag Ysgolion
Cyfrifoldebau allweddol
- Sicrhau bod rhaglenni a phrosiectau perthnasol yng Nghymru yn cael eu darparu ar amser ac i safon uchel, gan gynnwys cysylltu â phartneriaid allanol a thimau eraill BookTrust.
- Cydlynu cyfathrebu rheolaidd effeithiol gyda'n partneriaid ac adnoddau ar eu cyfer gan gynnwys cylchlythyrau, hyrwyddo digwyddiadau hyfforddi a chynnwys gwefan.
- Rheoli perthnasoedd o ddydd i ddydd â rhanddeiliaid perthnasol (gan gynnwys ysgolion ac awdurdodau lleol) sy'n cefnogi darpariaeth effeithiol rhaglenni a gweithgareddau'n, yn cynnal perthnasoedd cadarnhaol a safon gwasanaeth rhagorol.
- Cefnogi monitro a gwerthuso ein gweithgareddau, gan weithio gyda'n tîm ymchwil ac effaith arbenigol, gan gydlynu adborth gan randdeiliaid a phartneriaid yng Nghymru.
- Darparu cefnogaeth weinyddol graidd i sicrhau bod gweithgareddau a gwasanaethau dydd-i-ddydd yn rhedeg yn esmwyth.
- Darparu pwynt cyswllt cyntaf proffesiynol ar gyfer ymholiadau i swyddfa Caerdydd a rheolaeth o’r mewnflwch Pori Drwy Stori.
- Cyflawni'r holl ddyletswyddau yn unol â pholisïau a gweithdrefnau BookTrust a bod yn barod i ymgymryd â dyletswyddau rhesymol ychwanegol yn ôl yr angen.
MANYLEB PERSON
MEINI PRAWF |
E neu D |
Gwybodaeth |
|
|
E
|
|
E |
Profiad |
|
|
E |
|
E
E |
|
E |
|
|
Sgiliau a Phriodoleddau [nodwch Ymddygiad Sefydliadol BookTrust perthnasol yma ynghyd â sgiliau craidd eraill sydd eu hangen] |
|
|
E |
|
E
E E E E
E E |
E = meini prawf hanfodol D = meini prawf dymunol
Telerau ac Amodau
- Cyflog: £28,749
- 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau cyhoeddus
- Cynllun pensiwn – cyfraniad cyflogwr o 7%.
- Yswiriant bywyd 3 x cyflog
- Rhaglen Cymorth i Weithwyr
- Cynllun Benthyciad Tocyn Tymor
- Cynllun gweithio hyblyg
Eisiau ymuno â ni? Darganfod mwy am bwy ydym ni yma: https://www.booktrust.org.uk/about-us/work-at-booktrust/
I wneud cais, rhaid i chi gyflwyno'ch CV ac atodi llythyr eglurhaol heb fod yn fwy na dwy dudalen yn amlinellu eich addasrwydd mewn perthynas â'r fanyleb person.
Ein Hymrwymiad i Amrywiaeth a Chynhwysiant
Ein nod yw darparu proses recriwtio gynhwysol a chroesawn yn frwd geisiadau o gronfeydd talent amrywiol: ymgeiswyr BAME, ymgeiswyr ag anableddau a chyflyrau hirdymor ac ymgeiswyr o gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym am sicrhau bod gennym broses ymgeisio hygyrch i bob ymgeisydd. Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch neu os hoffech i ni wneud unrhyw beth yn wahanol yn ystod y broses ymgeisio, cysylltwch â’n tîm Adnoddau Dynol ar [email protected] neu 020 7801 8855/8856 i drafod eich gofynion ymhellach.
Mae BookTrust wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Mae'r broses recriwtio a dethol yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddiogelu felly, bydd addasrwydd yr holl ddarpar weithwyr yn cael ei asesu yn ystod y broses recriwtio yn unol â'r ymrwymiad hwn, a gwiriadau cyn cyflogaeth.