This site is BrowseAloud enabled
Text size
Small Medium Large
Contrast
Default Black on white Yellow on black

Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu rhaglenni rhoi llyfrau

Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu rhaglenni rhoi llyfrau
1 March 2012

Read 'Welsh government continues funding for bookgifting programmes' in English

Cadarnhawyd y bydd Dechrau Da yng Nghymru, yn ogystal â rhaglenni dwyieithog eraill, yn para am dair blynedd arall

 

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ariannu rhaglenni rhoi llyfrau ac ymyrraeth darllen Booktrust am dair blynedd arall.

 

Ar yr adeg heriol hon, mae'r lefel hon o gymorth yn dangos y gwerth uchel a roddir ar y rhaglenni, gan weinidogion a'r gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus proffesiynol sy'n eu darparu ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y bartneriaeth gyhoeddus/breifat sydd wrth wraidd y rhaglenni. Dyma pryd y mae buddsoddiad y llywodraeth yn ysgogi cymorth hael gan gyhoeddwyr, awduron, darlunwyr ac eraill ym maes plant, sy'n golygu bod rhaglenni fel Dechrau Da yn gwneud defnydd rhagorol o arian cyhoeddus.


Ymhlith y rhaglenni dwyieithog a ariennir am dair blynedd arall mae:

 

  • Dechrau Da - y rhaglen 'Bookstart' yng Nghymru
  • Dechrau'n Deg - rhaglen a dargedir i deuluoedd sydd o dan anfantais gymdeithasol
  • Clwb Blwch Llythyrau - rhaglen sy'n cefnogi'r rhagolygon addysgol i blant sy'n derbyn gofal yng Nghymru.


Yn ogystal, rydym yn datblygu rhaglen newydd ar gyfer y cyfnod sylfaen er mwyn adeiladu ar y rhaglen Dechrau Da. Bydd yn cefnogi plant, a'u teuluoedd, yn ystod y cyfnod pontio datblygiadol allweddol i'r dosbarth derbyn ac ar ddechrau eu haddysg ffurfiol. 


Mae pob rhaglen yn anelu at gefnogi pob plentyn ar ei daith ddarllen, ac mae'n cynnig manteision addysgol, cymdeithasol, emosiynol a diwylliannol ar sail cariad at ddarllen ac ysgrifennu'n annibynnol, er mwynhad a diben. Ein nod yw creu darllenwyr am oes.

Add a comment