Bag fy Mabi yng Nghymru

Helo a chroeso oddi wrth BookTrust Cymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i gael pob plentyn yn darllen o’r oedran cyntaf.

Gobeithio eich bod chi’n mwynhau’r llyfrau a’r pypedau bys yn eich Bag Fy Mabi – gallwch eu defnyddio sut bynnag y dymunwch gyda’ch un bach.

Yma fe gewch chi gynghorion, fideos ac awgrymiadau am lyfrau i’ch helpu i barhau i rannu straeon a rhigymau gyda’ch babi ar bob cam o’r daith. Does dim ffordd gywir neu anghywir o ddweud stori, bydd eich babi wrth ei bodd yn clywed sain gysurlon eich llais.

Eich llyfrgell leol

Mae’n rhad ac am ddim i ymuno â’r llyfrgell, ac mae’n ffordd wych o barhau i gael amser stori gyda’ch gilydd. Bydd llawer o lyfrgelloedd yn cynnig e-lyfrau, gwasanaeth clicio a chasglu a sesiynau rhigwm ar lein, ynghyd â’r cyfle i gwrdd â theuluoedd a gwneud ffrindiau newydd. Dewch o hyd i’ch llyfrgell leol yma.

Gwrando ar rigymau yn Gymraeg a Saesne

Rownd A Rownd

Seren Fechan

Canu gyda’r rhigymau

Cael y rhigymau

Gallwch lawrlwytho geiriau Rownd a Rownd y Gerddi. Does dim angen i chi wybod pob gair – gallwch ddyfeisio eich rhai eich hun a bydd eich babi wrth ei fodd.

Round and Round the Garden

Twinkle, Twinkle, Little Star

Canu gyda’r rhigymau

Cael y rhigymau

Gallwch lawrlwytho geiriau Seren Fechan. Does dim angen i chi wybod pob gair – gallwch ddyfeisio eich rhai eich hun a bydd eich babi wrth ei fodd.

Dysgu mwy am eich llyfrau newydd

Space Baby: Zoom to the Moon!Space Baby: Zoom to the Moon!

Awdur: Pat-a-Cake Darlunydd: Kat Uno

Mae’r llyfr bwrdd hyfryd hwn i fabis yn faint perffaith ar gyfer dwylo bach gyda chwe thudalen drwchus a stori fach hwyliog sy’n cyflwyno plant ifanc iawn i’r syniad o fynd ar antur.

  

Amser Chwarae’r Baban Bach / Little Baby ’s Playtime

Awdur: Sally Symes Addasiad: Nick Sharratt

Wiglo wiglo! Rhowch eich bysedd drwy’r tyllau i gael wiglan a giglan wrth droi pob tudalen. Gallwch chi wrando ar y stori yn Gymraeg yma