Aneirin Karadog yn ymweld â phlant ysgol yng Ngheredigion

Published on: 23 Mawrth 2018

Ddydd Llun a Dydd Mawrth, bu'r bardd Aneirin Karadog yn ymweld â phlant dosbarthiadau derbyn yng Ngheredigion i ddathlu darllen, rhigymau a straeon.

Aneirin Karadog

Sefydlwyd y digwyddiad, a drefnwyd gan BookTrust Cymru, sef cangen Cymru o'r elusen ddarllen fwyaf i blant yn y DU, i annog plant i fwynhau darllen a rhannu straeon gyda'i gilydd o oedran cynnar. Roedd tîm Cyfnod Sylfaen Ceredigion yn cefnogi'r digwyddiad.

Bu 200 o blant dosbarthiadau derbyn o saith o ysgolion lleol yn cymryd rhan yn y gweithdai dros dau ddiwrnod. Roedd y sesiynau wedi'u seilio ar Fagiau Bwmerang, sy'n rhan o raglen Pori Drwy Stori'r BookTrust, ac fe gyflwynodd Aneirin nhw yn y Gymraeg. Rhoddwyd y bagiau, sy'n cynnwys cylchgronau gweithgareddau difyr a llyfrau Cymraeg a Saesneg, i bob ysgol gynradd yng Nghymru ym mis Ionawr.

Cyfieithwyd y llyfr dwyieithog, Pip y Pengwin Bach (Rily Publications) i'r Gymraeg gan y cyn Fardd Plant Cymru. Stori gynnes a doniol sy'n odli ydy Pip y Pengwin Bach, a chyfunir hyn â'r cymeriadau Alphaprint gorau oll i'w gwneud yn stori hyfryd i'w rhannu â phlant ifanc.

Meddai Aneirin: 'Mae Cynllun Pori Drwy Stori yn werthfawr iawn, nid yn unig o ran cyflwyno plant lleiaf ysgolion Cymru i lyfrau a datblygu hoffter o ddarllen, ond hefyd am fod yma gyfle i ysgogi dychymyg y plant ac esgor ar greadigrwydd fel a welsom yn ein cyfres fywiog a llwyddiannus o weithdai yn rhai o ysgolion Ceredigion yn ddiweddar.'

Rhaglen genedlaethol ar gyfer plant oedran dosbarth derbyn ydy Pori Drwy Stori ac mae BookTrust Cymru'n dod â hi i ysgolion. Mae Llywodraeth Cymru'n ei hariannu i gefnogi llythrennedd a rhifedd ac i gael teuluoedd i ymgysylltu â dysgu. Danfonir adnoddau'n uniongyrchol i ysgolion bob tymor, yn gwbl rhad ac am ddim, ar gyfer pob plentyn 4-5 oed yng Nghymru, iddyn nhw eu defnyddio yn y dosbarth neu gartref. Mae'r adnoddau lliwgar, o ansawdd uchel, yn cynnwys llyfrau darluniau hyfryd Cymraeg a Saesneg, gemau rhifedd difyr, a 'Her Rhigymau' arbennig i blant eu mwynhau.

Meddai Helen Wales, Pennaeth Gwlad y BookTrust ar gyfer Cymru: 'Pleser o'r mwyaf ydy gweld y plant yn llawn cyffro ynglŷn â llyfrau'r Bag Bwmerang, a gwylio stori Pip yn dod yn fyw. Mae dysgu darllen mor bwysig – ond mae cymryd amser i gael hwyl â llyfrau a mwynhau rhannu straeon yn hanfodol i bob plentyn. Rydyn ni eisiau i blant a theuluoedd fwynhau rhannu pob un o adnoddau Pori Drwy Stori a chael hwyl yn darllen, yn chwarae ac yn dysgu gyda'i gilydd.'

Yn ystod pob sesiwn ryngweithiol, bu Aneirin yn darllen straeon, cerddi a rhigymau, ac yn helpu'r plant â chrefftau, gan ddefnyddio siapiau papur i wneud eu pengwiniaid eu hunain a defnyddio pethau bob dydd i wneud gludweithiau anifeiliaid roedd y darluniau yn y llyfr wedi'u hysbrydoli. Cyflwynwyd tystysgrifau i'r plant mewn seremoni arbennig i'w llongyfarch ar eu sgiliau rhigymu a gwrando newydd.

Meddai Sioned Lloyd, Athrawes Dosbarth Derbyn a fynychodd y digwyddiad: 'Roedd plant dosbarth derbyn ysgol Bro Teifi wedi mwynhau'r sesiwn yn fawr iawn. Bu'r prynhawn yn un hwylus a llwyddiannus iawn.'

Meddai Bethan Jones, Uwch Athrawes Ymgynghorol Llythrennedd Cyfnod Sylfaen: 'Mae'n anrhydedd cael croesawi'r prifardd Aneirin Karadog i gydweithio gydag ysgolion Ceredigion ac i hyrwyddo'r rhaglen Pori Drwy Stori. Mae'n gyfle arbennig i sbarduno ac ysbrydoli plant y Cyfnod Sylfaen i ddatblygu'r iaith Gymraeg mewn dull hwyliog a chreadigol.'


Add a comment

You might also like

Pori Drwy Stori

Pori Drwy Stori

Pori Drwy Stori yw’r rhaglen genedlaethol ar gyfer plant oedran Derbyn yng Nghymru, a ddarperir gan BookTrust Cymru. Mae’n hollol ddwyieithog ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

BookTrust yng Nghymru

BookTrust Cymru

Mae ein gwaith yn cefnogi pob teulu yng Nghymru o flwyddyn gyntaf bywyd eu plentyn hyd at ddiwedd eu blwyddyn Derbyn yn yr ysgol, gan ddechrau drwy roi anrheg o ddau lyfr BookTrust yn y pecyn Dechrau Da Babi.

Arrange an author visit

Invite an author to your school

Here's how to get an author or illustrator to visit your school and inspire your pupils.