Dechrau da 20: Bu 15,000 o bobl yn dathlu rhannu straeon yn 2012
Edrych yn ôl ar flwyddyn wych yn dathlu pen-blwydd Dechrau Da
Pan lansiwyd addunedau Dechrau Da 20 yn ôl ar ddechrau 2012, gwyddem y byddai'n ysgogi'r dychymyg. Gwyddem y byddai llawer ohonoch yn gwneud adduned i rannu 20 llyfr yn ystod y flwyddyn a gwyddem hefyd y byddech i gyd yn dweud wrth eich ffrindiau amdano.
Yr hyn na wyddem oedd faint ohonoch fyddai'n gwneud yr adduned: erbyn mis Awst roeddech wedi ein helpu i gyrraedd ein targed o 10,000 o addunedau ac erbyn hyn rydym bron â chyrraedd 15,000. Mae hynny'n golygu eich bod wedi rhannu tua 300,000 o lyfrau mewn llai na blwyddyn!
Rhywbeth arall a oedd yn syndod - un dymunol iawn - oedd y negeseuon o gefnogaeth arbennig, teimladwy, doniol, creadigol ac ysgogol y gwnaethoch eu hanfon atom. Gallwch weld llawer o'r rhain - ochr yn ochr â dyfyniadau gan addunedwyr enwog fel Jamie Oliver, Colleen Rooney a Michael Morpurgo - ar y wal adduned. Ac er bod yr ymgyrch wedi dod i ben, rydym am adael y wal yno er mwyn i ni gofio am yr holl bleser y mae Dechrau Da a rhannu llyfrau yn ei roi i ni.
Pen-blwydd hapus iawn i Dechrau Da - a gobeithio y bydd yr 20 mlynedd nesaf yr un mor wych!
Eamonn Holmes
Dathliadau pen-blwydd
Yn ystod Wythnos Genedlaethol Dechrau Da ym mis Mehefin, gwnaethom gynnal dathliadau pen-blwydd Dechrau Da yn 20 oed yng Ngerddi To Kensington - ac roedd ein Noddwr, Ei Huchelder Brenhinol Duges Cernyw a'r Bardd Plant Julia Donaldson yn bresennol. Gwnaethoch gynnal miloedd o bartïon eich hunain ledled y wlad, ac yn ôl y lluniau a'r toriadau o golofnau papur newydd y gwnaethoch eu hanfon, cawsoch lawer o hwyl!
Ac ar ddiwedd yr holl addunedu, rhannu llyfrau a'r dathlu, cawsom y newyddion gwych y bydd y llywodraeth yn adnewyddu ein cyllid er mwyn parhau â nod Dechrau Da a rhoi'r pleser o ddarllen i gymaint o fabanod, plant bach a phobl ifanc â phosibl.
Edrych ymlaen
Rydym yn edrych ymlaen at 2013 a her fawr newydd er mwyn helpu'r plant mwyaf difreintiedig i ddysgu am lyfrau a darllen. Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith drwy danysgrifio i gylchlythyr Booktrust a'n dilyn ar Twitter.
Felly, o'r diwedd, mae'n amser dweud diolch yn fawr. Diolch i bawb a wnaeth adduned i rannu llyfrau a diolch i bawb a anfonodd negeseuon o gefnogaeth atom. Diolch am gael gymaint o hwyl yn rhannu llyfrau a diolch am ein helpu i ddathlu stori Dechrau Da yn 2012.
Sylweddolais pa mor bwysig yw Dechrau Da pan gafodd fy merch ei llyfr cyntaf â lluniau babanod. Doeddwn i erioed o'r blaen wedi meddwl y gallai llyfrau fod yn gymaint o hwyl i blant.
Reem Abushawareb, addunedwr Dechrau Da 20








Add a comment