Pen-blwydd Hapus Dechrau Da!
Read this article, 'Happy birthday Bookstart!', in English
Heddiw, rydym yn lansio ymgyrch genedlaethol i ddathlu 20 mlynedd ers sefydlu Dechrau Da yn y DU. Byddwn yn dathlu popeth y mae'r rhaglen wedi'i gyflawni, gan gynnwys y 30 miliwn o lyfrau am ddim rydym wedi gallu eu rhoi yn rhodd ers i fabanod ddechrau cael pecynnau yn 1992. Eleni, rydym yn gofyn i gefnogwyr Dechrau Da wneud adduned i rannu 20 o lyfrau â phlant yn 2012. (Wrth gwrs, byddem wrth ein bodd pe baech yn rhannu mwy os gallwch!). Mae'r cerdyn post addunedu ar gael mewn llyfrgelloedd a gallwch hefyd wneud adduned ar-lein.
Mae gwneud yr adduned yn ffordd syml o annog pobl i ddod i'r arfer â darllen gyda'u plant a chefnogi Dechrau Da. Mae'r arfer o rannu llyfrau, straeon, caneuon a rhigymau gyda babanod yn helpu i feithrin sgiliau cyn-llythrennedd yn ogystal â rhoi'r cyfle unigryw i rieni a gofalwyr feithrin cydberthynas gref a chariadus â'u plant.
Mae ugain wyneb cyfarwydd wedi gwneud adduned i rannu 20 o lyfrau yn 2012 hefyd. Ynghyd â'u hadduned, mae'r sêr hefyd wedi datgelu eu hoff lyfrau i'w rhannu gyda'u plant, sy'n amrywio o glasur Dickens, Great Expectations i glasuron y dyfodol fel cyfres Mr Gum gan Andy Stanton.
Dyma rai o'r sêr sy'n gwneud yr adduned ynghyd â'r llyfrau y maent yn mwynhau eu rhannu â'u plant:
- Ei Huchelder Brenhinol Duges Cernyw - Hairy Maclary from Donaldson's Dairy gan Lynley Dodd
- Philip Pullman - Great Expectations gan Charles Dickens
- Kirsty Wark - Little Women gan Louisa May Alcott
- Cerys Matthews - The Adventures of Tom Sawyer gan Mark Twain
- Shami Chakrabati - How to Catch a Star gan Oliver Jeffers
- Sarah Beeny - Oh the Places You'll Go gan Dr Seuss
- Gaby Roslin - Going on a Bear Hunt gan Michael Rosen
- Coleen Rooney - Peter Pan gan J M Barrie
- Kelly Jones - James and the Giant Peach gan Roald Dahl
- Jacqueline Wilson - Where the Wild Things Are gan Maurice Sendak
- Julie Hesmondhalgh - Cyfres Mr Gum gan Andy Stanton
- Lauren Laverne - Charlie Cook's Favourite Book gan Julia Donaldson
Rydym hefyd wedi cael cefnogaeth yr awdur plant a'r cyn Fardd Plant, Michael Rosen; ysgrifennydd preswyl ar-lein Booktrust, Bali Rai; y comedïwr a seren y rhaglen gomedi boblogaidd Outnumbered, Hugh Dennis; y canwr a'r cyflwynydd teledu, Aled Jones; a'r Bardd Plant presennol ac awdur The Gruffalo, Julia Donaldson.
Mae gennym werth blwyddyn o weithgareddau a newyddion cyffrous i sicrhau eich bod yn parhau i rannu llyfrau. A dweud y gwir, mae Arth Dechrau Da wedi addo rhannu 20 o lyfrau. Mae gennyf ddau hoff lyfr i'w rhannu: fel Jacqueline Wilson, rwy'n dwli ar Where the Wild Things Are ac mae The Elephant and the Bad Baby gan Elfrida Vipont yn ffefryn hefyd.
Rwyf wedi gwneud fy adduned ac alla i ddim aros i ddechrau arni. Pam na wnewch chi?
Pen-blwydd Hapus Dechrau Da!
Viv Bird, Prif Weithredwr Booktrust









Add a comment