Cyfarfod â rhai o'n cefnogwyr enwog
Cerys Matthews
Mae llyfrau yn fy nhywys i fyd arall, i fan diogel mewn byd ansicr. Maent yn daith antur ddiddiwedd i'm plant. Mae darllen yn eich galluogi i ymgolli mewn byd arall, ac mae'n un o'r rhoddion mwyaf gwerthfawr y gallwch ei rhannu. Felly, mae'n bleser gennyf fod yn rhan o Dechrau Da yn 2012.
Mae Glenys, sy'n 8 oed, yn dwli ar lyfrau'r awdur Rick Riordan sydd wedi'u hysbrydoli gan chwedlau Groegaidd, ond rydym yn darllen 'The Adventures of Tom Sawyer' gyda'n gilydd. Mae John Jones, sy'n 6 oed, yn dwli ar lyfrau Roald Dahl a llawlyfrau awyrennau. Mae'n rhaid i mi gyfaddef, mae'n well gen i ddarllen rhai Roald Dahl gydag ef! Gruffalo sy'n mynd â bryd Red Owen, sy'n 2 oed, ac yn sicr - dyma'r llyfr mwyaf difyr i'w ddarllen yn uchel i'ch babanod.
Aled Jones
Mae llyfrau plant wedi chwarae rhan enfawr yn fy ngyrfa a'm mywyd personol. Bu geiriau a lluniau hudolus stori glasur Raymond Briggs, 'The Snowman', yn help i hoelio sylw miliynau o bobl ledled y byd pan ddechreuais ganu. Ac yn fwy diweddar fel tad, rwyf wedi canfod cenhedlaeth gyfan o straeon gwych i'w rhannu â'm plant. Mae'r adegau hynny gyda'n gilydd yn rhannu llyfr wedi bod yn werthfawr a chofiadwy tu hwnt.
Mae'n bleser gennyf gefnogi Dechrau Da yn 2012. Fel Cymro balch, rwy'n arbennig o falch o gael hyrwyddo Dechrau Da yng Nghymru - sy'n cynnig pecynnau llyfrau dwyieithog gwych i bob baban a phlentyn bach.
Kelly Jones
Gyda dwy ferch sy'n bump ac yn saith oed, darllen iddyn nhw, a'u clywed yn darllen i mi, yw'r awr fwyaf manig ond fwyaf arbennig o'r dydd. O 'The Gruffalo' i 'James and the Giant Peach', ac wrth gwrs (gan eu bod nhw'n dywysogesau) Cinderella - dyma rai o'r ffefrynnau rydym yn hoffi eu darllen gyda' gilydd fel teulu. Mae'n ddiddorol gweld eu dychymyg yn dod yn fyw.






